Fforwm Mynediad Lleol Caerffili
Yng Nghaerffili, mae gennym ni tua 800km (500 milltir) o hawliau tramwy cyhoeddus i'w mwynhau ar gyfer hamdden ac amwynder. O lwybrau troed i ffyrdd osgoi y gall unrhyw un eu defnyddio, rydyn ni’n cydnabod bod ein hawliau tramwy cyhoeddus yn wirioneddol bwysig i helpu pobl i fwynhau’r awyr agored.
P’un a ydych chi’n cerdded gyda’ch ci, yn archwilio, yn mwynhau natur, neu’n gweithio yn y cefn gwlad, rydyn ni eisiau clywed eich barn fel y gallwn ni gydweithio i wella ein hawliau tramwy cyhoeddus i bawb.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
O dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, rhaid i ni adolygu ein Cynllun Gwella Hawliau Tramwy bob 10 mlynedd. Mae gennym ni hefyd ddyletswydd o dan y Ddeddf i benodi Fforwm Mynediad Lleol i gynghori ar faterion mynediad yn ein hardal. Felly, rydyn ni’n ceisio ailsefydlu Fforwm Mynediad Lleol i gynghori ar wella mynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored.
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gael mewnbwn gan unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, neu'r rhai a allai gynghori mewn perthynas â'r nodweddion gwarchodedig fel sydd wedi’u diffinio yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ar welliannau posibl i'n darpariaeth mynediad ni. Mae'r nodweddion gwarchodedig yn cynnwys:
• Oedran
• Anabledd
• Ailbennu rhywedd
• Priodas a phartneriaeth sifil
• Beichiogrwydd a mamolaeth
• Hil (gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol)
• Crefydd neu gred
• Rhyw
• Cyfeiriadedd rhywiol
Yn ogystal â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac er mwyn sicrhau cydbwysedd o gynrychiolaeth, rydyn ni hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r aelodaeth gynnwys croestoriad o ddefnyddwyr ein hawliau tramwy cyhoeddus, yn ogystal â thirfeddianwyr/rheolwyr tir neu eu cynrychiolwyr fel cynrychiolwyr Undebau'r Ffermwyr ar y Fforwm Mynediad Lleol. Gall y rhain gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
• Cerddwyr
• Marchogion
• Clybiau pobl ifanc (e.e. Sgowtiaid, Geidiau, cydlynwyr Gwobr Dug Caeredin)
• Beicwyr pedal/beicwyr mynydd
• Rhedwyr
• Grwpiau hanes ac archaeoleg lleol
• Grwpiau lles (e.e. ysgolion coedwig, grwpiau cerdded a siarad) Defnyddwyr y trydydd sector
Ffyrdd o fynegi eich barn
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn un o 20 aelod o'r Fforwm Mynediad Lleol a fydd yn cynghori'r Cyngor ar ddatblygu polisïau yn y dyfodol mewn perthynas â mynediad, llenwch y ffurflen hon:
Noder y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter, felly, bydden ni’n disgwyl lefel gyson o ymrwymiad wrth fynd i’r rhain er mwyn y canlyniadau gorau.
Mae'r arolwg hwn ar gael yn y Gymraeg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. This survey is available in Welsh. It is available in other languages and formats on request.
Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un neu ragor o'r digwyddiadau gysylltu â'r tîm drwy anfon e-bost at HawliauTramwy@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 866737.
Canlyniadau disgwyliedig
Gyda mewnbwn aelodau, byddwn ni’n gweithredu newidiadau cadarnhaol i'n rhwydwaith hawliau tramwy a'n darpariaeth mynediad ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i adolygu a chyhoeddi ein Cynllun Gwella Hawliau Tramwy sydd ar gael yma: Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Caerffili