Gwasanaeth Llyfrgelloedd - Ymgynghoriad Cam 2
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwrw ymlaen â chynlluniau i drawsnewid y ffordd y mae'n darparu'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd ledled y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol ac mae'n awyddus i geisio barn trigolion.
Y llynedd, ymgynghorodd yr Awdurdod ar weledigaeth strategol ar gyfer llyfrgelloedd ac mae nawr am symud ymlaen i ymgynghori ar greu gwasanaeth mwy cynaliadwy a gwydn.
Ddydd Iau 16 Ionawr, bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried a ddylai fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad ar gynigion a allai arwain at greu ‘hybiau’ llyfrgelloedd canolog gwell yng nghanol trefi. Wedyn, byddai hyn yn golygu bod safleoedd llyfrgelloedd cymunedol llai eraill yn cael eu hailddefnyddio neu eu darparu mewn ffordd wahanol yn y dyfodol.
Yn anffodus, gallai hyn hefyd olygu y gallai rhai safleoedd gau os nad yw'n bosibl cytuno ar drefniadau eraill.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Carol Andrews, “Rydyn ni'n gwerthfawrogi ein gwasanaeth llyfrgelloedd yn fawr, ond mae'r pwysau ariannol heb eu tebyg o'r blaen sy'n ein hwynebu dros y blynyddoedd nesaf yn golygu bod yn rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau model llyfrgelloedd cynaliadwy sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
“Rydyn ni'n credu y bydd y cysyniad o ddatblygu llai o hybiau llyfrgell canol tref, ond gwell, yn diwallu anghenion newidiol ein cymunedau yn well. Mae llwyddiant ein model Hwb Cymunedol peilot yn Llyfrgell Rhymni yn dangos y manteision y gall y dull hwn eu cyflwyno i bobl leol a'r economi leol.
“Mae'n bwysig nodi nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud hyd yma, ac os yw'r cam ymgynghori yn cael ei gymeradwyo, mae'n hanfodol bod cynifer o bobl â phosibl yn ymgysylltu ac yn rhoi adborth i'n helpu ni i lunio'r ffordd rydyn ni'n darparu ein gwasanaeth llyfrgelloedd yn y dyfodol.”
Mae dau newid allweddol wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ar gyfer y Cabinet, yn dilyn adborth a ddaeth i law y llynedd yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol ar y weledigaeth strategol:
- Mae'r cynnig i gau Llyfrgell Trecelyn i'w dynnu'n ôl
- Mae'r cynlluniau i gau Llyfrgell Tredegar Newydd i'w gohirio am 3 blynedd, ac wedyn, bydd adolygiad arall.
Mae manylion yr adroddiad ar gyfer y Cabinet a gwybodaeth ategol ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili drwy glicio yma – https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=128&MId=14788&LLL=0
Sut galla i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?
Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi ddweud eich dweud.
- Llenwi arolwg ar-lein neu mae copïau caled ar gael o'ch Llyfrgell agosaf.
- Galw heibio am sgwrs yn un o'r sesiynau galw heibio anffurfiol canlynol:
| Dyddiad | Amser | |
Llyfrgell Machen | 18 Chwefror 2025 | 16:30-18:30 | |
Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Nelson | 19 Chwefror 2025 | 16:30-18:30 | |
Llyfrgell Aberbargoed | 20 Chwefror 2025 | 10:30-12:30 | |
Llyfrgell Llanbradach | 21 Chwefror 2025 | 10:00-12:00 | |
Llyfrgell Deri | 3 Mawrth 2025 | 16:30-18:30 | |
Fleur de Lys Community Centre llyfrgell Ifor Pengam | 4 Mawrth 2025 | 14:00-16:00 | |
Llyfrgell Bedwas | 4 Mawrth 2025 | 16:30-18:30 | |
Llyfrgell Abercarn | 5 Mawrth 2025 | 16:30-18:30 | |
Llyfrgell Abertridwr | 6 Mawrth 2025 | 16:30-18:30 | |
Llyfrgell Oakdale | 11 Mawrth 2025 | 16:30-18:30 |
- Gofyn am gael ymuno yn un o'n sesiynau ar-lein drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk (dolen allanol) neu drwy ffonio 01443 864380:
Dyddiad: | Amser: |
19 Chwefror 2025 | 14:00-16:00 |
11 Mawrth 2025 | 11:00-13:00 |
Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r digwyddiadau, gysylltu â'r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864380.
I gael cymorth o ran llenwi'r arolwg neu i ofyn am fformatau eraill, cysylltwch â'r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864380.