A469 Troedrhiwfwuch - Cynllun Adfer Tirlithriadau
Wedi gorffen
Mae’r A469 rhwng Tredegar Newydd a Phontlotyn yn rhan o Rwydwaith Priffyrdd Strategol y Fwrdeistref Sirol. Yn hanesyddol, bu nifer o dirlithriadau yn Nhroedrhiwfuwch. Y rhai diweddaraf oedd Chwefror 2014, pan fu’n rhaid cau’r A469 am nifer o fisoedd tra bod gwaith atgyweirio brys yn cael ei wneud ac yn fwy diweddar ym mis Chwefror 2020, sydd wedi golygu bod yr A469 wedi’i lleihau i lôn sengl wedi'i rheoli gan oleuadau traffig.
Mae CBSC wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i’n galluogi ni i gynnal ymchwiliadau tir manwl, monitro symudiadau daear, lefelau dŵr daear a data glaw yn barhaus sydd wedi bwydo i mewn i gynnig dylunio rhagarweiniol. Y cam nesaf yw Dylunio Manwl.
Pam ydyn ni'n cynnal y sesiynau hyn?
Rhannu gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma gyda'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o'r cynllun arfaethedig dangosol.
Ffyrdd o ddarganfod rhagor:
Bydd Digwyddiadau Ymgysylltu yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:
Llyfrgell Rhymni, Rhymni
Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2024, 11.30am–3pm
Canolfan Gymunedol Abertyswg
Dydd Iau 18 Gorffennaf, 11.45am–1pm
Neuadd Eglwys Tyfaelog Sant, Pontlotyn
Dydd Iau 18 Gorffennaf 2024, 2.30pm–5.30pm
Llyfrgell Tredegar Newydd, Tredegar Newydd
Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024, 10.30am–12.30pm
Canolfan Gymunedol Deri, Deri
Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024, 2.30pm–5.30pm
Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau, gysylltu â’r tîm drwy e-bostio GweinPeirianneg@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866511.
Y Camau Nesaf
Os bydd y cynllun arfaethedig yn cael ei roi ar waith bydd ganddo’r manteision canlynol:
• Gwella ansawdd wyneb y ffordd a fydd yn galluogi i derfyn cyflymder y ffordd gael ei adfer.
• Bydd modd cael gwared ar y goleuadau traffig dros dro a fydd yn gwella amseroedd teithio.
• Lleihau'r angen i gau ffyrdd yn barhaus sydd eu hangen ar hyn o bryd i selio craciau yn y ffordd.
• Bydd offer cyfleustodau o fewn y briffordd yn cael eu hamddiffyn rhag difrod oherwydd symudiadau tir parhaus.
• Bydd system rhybudd cynnar yn cael ei ystyried i ragrybuddio am symudiadau tir sylweddol.
Yn dilyn y cynllun adfer, bydd gwedd yr A469 yn parhau i fod yn debyg iawn i'r sefyllfa bresennol, er y gallai'r strwythurau adfer fod yn weladwy i ddeiliaid cerbydau sy'n mynd heibio.