Cam 2: A472 i gyffordd Heol y Twyn

Rhannu Cam 2: A472 i gyffordd Heol y Twyn ar Facebook Rhannu Cam 2: A472 i gyffordd Heol y Twyn Ar Twitter Rhannu Cam 2: A472 i gyffordd Heol y Twyn Ar LinkedIn E-bost Cam 2: A472 i gyffordd Heol y Twyn dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.

Cam 1 Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Cyfnod Ymgysylltu Cychwynnol

Roedd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 12 a 26 Chwefror 2024 fel rhan o'r broses ymgysylltu gychwynnol ar gyfer y cynllun A472 i gyffordd Heol y Twyn - Gwelliannau Teithio Llesol.  Roedd gwahodd i'r cyhoedd gwblhau arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd cychwynnol (ar-lein ac yn bersonol). Cafodd yr allbynnau eu defnyddio i lywio’r broses o ddylunio’r cyswllt teithio llesol lle oedd hynny’n briodol, a llunio’r ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth i’r cynllun fynd rhagddo.

Yn dilyn dadansoddi arolygon ar gyfer y cynllun A472 i gyffordd Heol y Twyn – Gwelliannau Teithio Llesol, roedd nifer o themâu allweddol ynghylch dulliau teithio presennol a dulliau teithio dymunol i ardal yr astudiaeth. Mae cerdded yn ddull poblogaidd o deithio ac roedd diddordeb amlwg i'w wella, yn enwedig drwy ddatblygu rhagor o gyfleusterau croesi.

Yn ogystal, roedd yr ymatebwyr hynny â diddordeb mewn newid eu harferion teithio yn ffafrio newid i ddulliau teithio llesol gan gynnwys cerdded a beicio. Er gwaethaf y diddordeb mewn symud tuag at y dulliau teithio llesol hyn, roedd anfodlonrwydd â’r cynnig ei hun. Mae'r anfodlonrwydd hwn yn deillio'n bennaf o wybodaeth gyfyngedig am sut mae'r llwybrau'n parhau y tu hwnt i ardal yr astudiaeth a phryderon diogelwch.

Cafodd ei benderfynu y bydd ymgysylltu ychwanegol yn digwydd yn gynnar yn 2024, gan ddangos sut mae'r cynlluniau wedi esblygu o ganlyniad i'r broses adolygu dyluniad a ddilynodd y cyfnod ymgysylltu â'r cyhoedd cyhoeddus cyntaf. Gan nodi nifer yr ymatebion “Anfodlon iawn”, byddai'r cyfle nesaf ar gyfer ymgysylltu ar-lein yn cynnwys deunydd ychwanegol i ddangos sut mae cynigion y cynllun hwn yn cyd-fynd â chyd-destun ehangach darparu ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r nodyn ymgysylltu cychwynnol ar gael ar-lein sy’n manylu ar yr holl ymatebion ac yn amlinellu sut mae tîm y prosiect wedi gwneud y diwygiadau.

Cam 2 - Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Yn dilyn y cyfnod ymgysylltu cychwynnol, cafodd adborth ei adolygu a, lle bo'n briodol, ei ymgorffori yn y dyluniad terfynol. Mae'r ail gyfnod ymgysylltu hwn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd adolygu'r dyluniadau terfynol a chyflwyno awgrymiadau/sylwadau i'w hystyried.

Byddwn ni'n defnyddio mewnwelediadau i lywio’r dyluniad terfynol a llywio camau nesaf y cysylltedd Teithio Llesol ehangach.

Ynglŷn â'r Prosiect

Fel rhan o gyflawni Map Rhwydwaith Teithio Llesol, sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor, mae’r prosiect hwn yn edrych ar sut mae modd datblygu a darparu Cyswllt Teithio Llesol gwell yn Ystrad Mynach ar gyfer cerddwyr a beicwyr, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru sy'n annog cerdded a beicio fel dulliau teithio dewisol ar gyfer teithiau o fewn pellteroedd byr.

Mae’r llwybrau cerdded a beicio arfaethedig eisoes wedi’u cynnwys ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol MapDataCymru ac yn ceisio sefydlu rhwydwaith teithio llesol cychwynnol ar gyfer yr ardal, gan ffurfio rhan o uchelgais 15 mlynedd ehangach i ddarparu rhwydwaith teithio llesol helaeth ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae AtkinsRéalis yn edrych ar amrywiaeth o wahanol opsiynau i ailgynllunio’r ffyrdd i’w gwneud hi'n haws i gerdded a beicio rhwng cylchfan yr A472/Caerphilly Road a chyffordd Heol y Twyn/Caerphilly Road. Bydd yr astudiaeth yn ffurfio rhan o uchelgais ehangach i wella cysylltedd rhwng lleoliadau allweddol megis Ysbyty Ystrad Fawr, Parc Ystrad Mynach, Coleg y Cymoedd, y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod, Gorsaf Drenau Ystrad Mynach, canol y dref a’r ardal ddiwydiannol ger Parc Busnes Dyffryn. Bydd y cyflwyniad graddol hwn yn ffurfio rhan o rwydwaith cyffredinol y Cyngor i ddarparu gwelliannau teithio llesol rhwng Ystrad Mynach, Llanbradach, Caerffili a Bedwas.

Mae’r gwelliannau hyn yn ystyried newidiadau a fyddai’n gwneud teithio’n haws i gerddwyr a beicwyr megis cyfleusterau croesi newydd, cyrbiau isel a phalmentydd botymog gwell, croesfannau parhaus ar draws ffyrdd ymyl ac ati. Cyfeiriwch at Dabl 1 i gael enghreifftiau o welliannau.

Bydd AtkinsRéalis yn nodi holl fanteision ac anfanteision yr opsiynau dylunio a deall yn well anghenion a dyheadau'r gymuned leol i wella eu hansawdd bywyd. Yn y pen draw, mae’r galw am ofod ar y ffyrdd yn gymhleth ac mae’r broses o ddatblygu cysylltiadau teithio llesol yn broses sy’n esblygu. Bydd y llwybr a’r cysylltiadau sy'n cael eu datblygu yn ddiweddarach yn amodol ar y broses arfarnu sydd wedi'i chytuno arni gan Lywodraeth Cymru.

Er bod ein gwaith yn symud ymlaen tuag at gam dylunio manwl, nid yw'r cynllun dewisol i'w ddatblygu wedi'i gwblhau. Rydyn ni'n awyddus i glywed pa agweddau rydych chi'n eu hoffi, pa agweddau a fydd efallai yn achosi pryderon, neu unrhyw opsiynau gwell yr hoffech chi eu cynnig.

Byddwn ni'n defnyddio eich adborth i ddatblygu ein dyluniadau ymhellach, a byddwn ni'n rhoi gwybod i drigolion os oes cyllid ar gael ar gyfer dyluniad y cynllun dewisol.

Sylwch, pan fyddwn ni'n defnyddio’r term ‘cerddwr’ neu ‘gerdded’, rydyn ni'n cyfeirio nid yn unig at y rhai sy’n teithio ar droed ond hefyd defnyddwyr cadeiriau olwyn a chymhorthion symud eraill.

Tabl 1 - Enghreifftiau o welliannau

Gwelliannau

Enghraifft

Cyfleusterau croesi

Cyrbiau isel

Palmant botymog

Croesfannau parhaus 

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Er mwyn cynnwys cymunedau lleol, rhanddeiliaid, a defnyddwyr teithio llesol presennol a defnyddwyr teithio llesol posibl. Mae hyn yn sicrhau bod anghenion a gwybodaeth defnyddwyr lleol yn cael eu nodi wrth ddatblygu'r cynigion dylunio.

Beth yw teithio llesol?

Mae teithio llesol yn golygu cerdded, defnyddio cadair olwyn a beicio yn lle gyrru ar gyfer teithiau ymarferol, pob dydd fel siopa, cymudo, a chael mynediad at wasanaethau fel iechyd ac addysg. Mae teithio llesol yn gallu helpu lleihau allyriadau carbon a llygredd aer drwy leihau’r defnydd o geir, ac mae hefyd yn gallu helpu’n ariannol drwy leihau’r ddibyniaeth ar geir ar gyfer teithiau byrrach.

Mae gan bob Cyngor yng Nghymru ddyletswydd ddeddfwriaethol i greu mapiau sy’n dangos eu llwybrau teithio llesol presennol a’u llwybrau arfaethedig. Mae llwybrau ond yn cyfrif fel llwybrau teithio llesol os ydyn nhw'n bodloni safonau gofynnol penodol o ran diogelwch, uniongyrchedd, a meini prawf eraill sy’n sicrhau bod ansawdd uchel yn cael ei ddyheu amdano a’i gynnal.

Ardal yr Astudiaeth/Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Mae'r prosiect hwn yn edrych ar y rhan rhwng cylchfan yr A472/Caerphilly Road a chyffordd Heol y Twyn/Caerphilly Road yn Ystrad Mynach. Wrth i'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol ddatblygu, bydd cysylltiadau ehangach yn Ystrad Mynach a rhwng aneddiadau fel Llanbradach, Caerffili a Bedwas yn cael eu harchwilio.

Mae cyfeirnod ardal yr astudiaeth ar MapDataCymru yn cynnwys Llwybrau INMC320, INMC31 ac INMC319. Mae’r llwybrau’n cydweddu â sawl llwybr arall y dyfodol sydd wedi'u nodi ar haen teithio llesol cymeradwy'r Cyngor, gan gynnwys INMC328-SC, INMC327, INMC21 ac INMC330. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar MapDataCymru (Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol | MapDataCymru (llyw.cymru))

Arfarnu Opsiynau

Mae'r wybodaeth isod yn rhoi crynodeb o'r broses arfarnu opsiynau gychwynnol a gafodd ei chynnal ar hyd ardal yr astudiaeth.

Mae’r manylion yn datblygu ac yn amodol ar arfarnu manwl pellach:

  • Un cyfleuster croesi twcan ar gylchfan yr A472 (tua'r dwyrain i gyfeiriad Maes-y-cwmwr).
  • Llwybr cyd-ddefnyddio parhaus (lleiafswm lled o 3.0 metr) ar hyd Caerphilly Road.
  • Uwchraddio'r groesfan sebra bresennol ar hyd Caerphilly Road i groesfan gyfochrog. Mae croesfannau uchel ar y gyffordd flaenoriaeth bellach yn cyffwrdd â'r ffordd gerbydau bresennol.
  • Croesfan i gerddwyr heb ei rheoli er mwyn cael mynediad i Ynys-glyd Street. Mae croesfannau uchel ar y gyffordd flaenoriaeth bellach yn cyffwrdd â'r ffordd gerbydau bresennol.
  • Uwchraddio'r croesfannau presennol ar gyffordd Caerphilly Road/Heol y Twyn i groesfan twcan. Mae croesfannau uchel ar y gyffordd flaenoriaeth bellach yn cyffwrdd â'r ffordd gerbydau bresennol.
  • Darparu croesfan newydd i gerddwyr sy'n cael ei rheoli gan signalau ar gyffordd Caerphilly Road/Heol y Twyn. Mae croesfannau uchel ar y gyffordd flaenoriaeth bellach yn cyffwrdd â'r ffordd gerbydau bresennol.

Bydd canfyddiadau'r arfarniad yn helpu llywio cynllun y llwybr hwn yn y dyfodol. Bydd gwaith manwl pellach yn cael ei wneud gan AtkinsRéalis i archwilio gwelliannau i deithio llesol yn ardal yr astudiaeth a chysylltiadau ehangach yn Ystrad Mynach ar ôl i’r ymgysylltu hwn ddod i ben.

Ffyrdd o fynegi eich barn

I wneud sylwadau ar y cynigion, llenwch yr arolwg ar-lein yma). Gallwch chi hefyd argraffu copi o'r arolwg i'w lenwi.

Mae copi o’r cynlluniau a’r arolwg ar gael yn Llyfrgell Ystrad Mynach (Y Stryd Fawr, Ystrad Mynach CF82 7BB) ac mae modd dychwelyd unrhyw arolygon papur sydd wedi’u llenwi i’ch llyfrgell chi neu yn y post i:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,
Adran Isadeiledd (Gweinyddiaeth Peirianneg),
Tŷ Penallta,
Parc Tredomen,
Ystrad Mynach,

Hengoed
CF82 7PG

Canlyniadau Disgwyliedig

Bydd unrhyw allbwn o'r ymgysylltu hwn yn cyfrannu at y broses ddylunio derfynol. Bydd ymgysylltu pellach yn digwydd maes o law unwaith y bydd cysylltiadau teithio llesol ehangach wedi’u nodi a’u datblygu.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad ar gael o fewn pythefnos i ddyddiad olaf yr ymgynghoriad.