Adolygiad o'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol 2026
Adolygiad Map Rhwydwaith Teithio Llesol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei ddrafft Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM). Bydd yr ymgynghoriad yn helpu i lunio cynigion i ehangu a gwella llwybrau teithio llesol ar draws y fwrdeistref sirol, gan ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded, olwyno a beicio ar gyfer teithiau bob dydd.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru adolygu eu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn rheolaidd a dangos sut maen nhw'n gwella llwybrau ar gyfer cerdded, beicio a phobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd.
Mae teithio llesol yn cyfeirio at gerdded, olwyno a beicio ar gyfer teithiau bob dydd, naill ai fel taith gyflawn neu fel rhan o deithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r mathau hyn o deithio yn darparu manteision sylweddol i iechyd, yr amgylchedd a chymdeithas, yn enwedig pan fyddant yn disodli teithiau a fyddai fel arall yn cael eu gwneud mewn car preifat.
Mae annog symudiad tuag at gerdded, olwyno, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn nod allweddol i Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ac mae’n cyd-fynd yn gryf ag uchelgeisiau Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy, hygyrch ac integredig.
Mae cefnogi teithio llesol yn cyfrannu ymhellach at Amcanion Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili drwy hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, lleihau allyriadau carbon a helpu i greu cymunedau mwy diogel, mwy cysylltiedig a gwydn. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella ansawdd, cysylltedd a hygyrchedd llwybrau teithio llesol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Bydd eich adborth yn helpu i lywio datblygiad y Map Rhwydwaith Teithio Llesol wedi'i ddiweddaru ac i nodi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.
Bydd y map wedi'i ddiweddaru yn disodli'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol blaenorol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2021. Mae'n cyfuno llwybrau cerdded a beicio presennol â llwybrau arfaethedig y dyfodol, gan helpu'r Cyngor i gynllunio rhwydwaith cysylltiedig sy'n cefnogi teithio cynaliadwy ac yn lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat.
Dweud Eich Dweud
Rydym yn croesawu eich barn ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol.
Cyn cwblhau'r arolwg, cymerwch ychydig o amser i adolygu'r map gan ddefnyddio'r ddolen isod:
Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM)
Ar ôl i chi agor y map, dewiswch y botwm gwyrdd “Dangos yn syllwr mapiau” i'w ehangu. Bydd hyn yn agor fersiwn fwy o'r map ac yn arddangos allwedd y map ar yr ochr chwith, gan esbonio'r gwahanol liwiau a symbolau a ddefnyddir.
Os nad yw'r map yn llwytho ar unwaith, adnewyddwch y dudalen neu ceisiwch agor y ddolen mewn porwr gwe gwahanol.
Gellir cyflwyno sylwadau drwy'r arolwg sydd yn y ddolen isod. Yn ogystal, bydd y Cyngor yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori mewn lleoliadau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, lle gall aelodau'r cyhoedd weld y cynigion, gofyn cwestiynau a rhoi adborth wyneb yn wyneb.
Cynhelir digwyddiad ymgysylltu ar-lein hefyd, gan roi cyfle pellach i ddysgu mwy am y map sylfaen a rhannu eich barn. Cyfeiriwch at yr adran Dyddiadau Allweddol am fanylion dyddiadau, amseroedd a lleoliadau digwyddiadau.
Mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu i lunio dyfodol teithio llesol ar draws y fwrdeistref sirol.