Adolygiad o faterion Cerbydau Hacni (tacsis) a Cherbydau Hurio Preifat 2024
Rhannu Adolygiad o faterion Cerbydau Hacni (tacsis) a Cherbydau Hurio Preifat 2024 ar FacebookRhannu Adolygiad o faterion Cerbydau Hacni (tacsis) a Cherbydau Hurio Preifat 2024 Ar TwitterRhannu Adolygiad o faterion Cerbydau Hacni (tacsis) a Cherbydau Hurio Preifat 2024 Ar LinkedInE-bost Adolygiad o faterion Cerbydau Hacni (tacsis) a Cherbydau Hurio Preifat 2024 dolen
Mae'r Cyngor yn ceisio barn ar gynnig i ddiwygio'r gofynion oedran mynediad ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn y Fwrdeistref Sirol. Mae manyleb ac amodau cerbydau presennol y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i gerbydau gael eu trwyddedu cyn eu ‘pen-blwydd’ yn 5 oed o’r dyddiad cofrestru cyntaf fel y nodir yn Llyfr Log V5.
Mae cynnig wedi dod i law sy’n awgrymu y dylid cynyddu’r oedran mynediad cerbydau ar gyfer cerbydau salŵn safonol, fel bod rhaid i gerbydau gael eu trwyddedu cyn eu ‘pen-blwydd’ yn 8 oed o’r dyddiad cofrestru cyntaf, fel y dangosir ar Lyfr Log V5, gan ddod â hyn yn unol â’r gofyniad oedran mynediad presennol ar gyfer cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn.
Yn ogystal, bydden ni hefyd yn gofyn am eich sylwadau ar gynnig a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i yrwyr cerbydau hacni (tacsis) gynnig modd i deithwyr dalu ag arian parod ac yn electronig / cerdyn.
Er mwyn casglu eich sylwadau ar y cynigion hyn, bydden ni’n eich gwahodd chi i lenwi’r holiadur canlynol ynghylch y materion hyn.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
I gael barn y fasnach cerbydau hacni (tacsis) a cherbydau hurio preifat, a barn y cyhoedd ehangach a busnesau yn yr ardal am y cynigion uchod gyda’r bwriad o ystyried diwygio manyleb cerbydau’r Cyngor a/neu amodau trwydded.
Yn dilyn coladu ac ystyried yr ymatebion, mae’n debygol y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu Tacsis a Chyffredinol ar gyfer penderfyniad.