Strategaeth Ansawdd Aer ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datblygu Strategaeth Ansawdd Aer newydd.
Mae ansawdd aer yn cyfeirio at gyflwr yr aer o’n cwmpas, gan gynnwys lefelau llygryddion a all effeithio ar ein hiechyd, lles a’r amgylchedd. Gall ansawdd aer gwael gael effaith ar iechyd anadlol a chardyfasgwlaidd pobl, ac mae hefyd yn gallu effeithio ar gymunedau lleol a’r amgylchedd naturiol.
Er mwyn deall ac ymdrin ag ansawdd aer, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’n monitro ansawdd aer lleol gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau:
• Monitro tiwbiau lledaenu (diffusion tubes): Mae hyn yn cynnwys gosod tiwbiau bach mewn sawl lleoliad ar draws y fwrdeistref i fesur lefelau nitrogen deuocsid dros amser.
• Gorsaf fonitro awtomataidd: Mae’r rhain yn cofnodi lefelau llygryddion yn barhaus mewn ardaloedd penodol o’r fwrdeistref.
Mae canlyniadau’r monitro hwn yn cael eu cyhoeddi yn Adroddiadau Cynnydd Blynyddol y Cyngor, gan helpu i olrhain tueddiadau, nodi ardaloedd problemus, ac llywio polisïau a gweithredu i wella ansawdd aer.
Mae’r arolwg hwn yn gofyn am eich barn ar ansawdd aer lleol, gan gynnwys eich mynediad i wybodaeth, sut mae ansawdd aer yn effeithio arnoch chi, a’r newidiadau yr hoffech eu gweld yn y dyfodol. Bydd eich adborth yn helpu i lunio’r Strategaeth Ansawdd Aer newydd a llywio camau i wella ansawdd aer ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Pam rydyn ni'n ymgynghori
Gall ansawdd aer effeithio ar iechyd pobl, ansawdd bywyd, a’r amgylchedd.
Mae’r Cyngor am ddeall profiadau a blaenoriaethau lleol fel bod y Strategaeth Ansawdd Aer yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysicaf i’n cymunedau.
Rydym yn ymgynghori er mwyn:
• Deall pryderon lleol ynghylch ansawdd aer
• Nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu
• Sicrhau bod cynlluniau’r dyfodol yn cael eu llywio gan drigolion, busnesau, a grwpiau cymunedol
Mae’r ymgynghoriad hwn ar agor i bawb sy’n byw, gweithio, astudio, neu ymweld â Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Mae sawl ffordd i chi gymryd rhan:
• Arolwg ar-lein
Cwblhewch yr arolwg ar-lein yma: Arolwg Cymunedol Strategaeth Ansawdd Aer Caerffili. Mae’n cynnwys cyfuniad o gwestiynau aml-ddewis a lle i ychwanegu eich sylwadau eich hun. Mae’r arolwg yn cymryd tua 5–10 munud i’w gwblhau.
• Copïau papur
Bydd copïau papur o'r arolwg ar gael ar gais drwy e-bostio ehadmin@caerphilly.gov.uk neu drwy ffonio 01443 815588
• Cymorth i gymryd rhan
Os oes angen help arnoch i gwblhau’r arolwg neu os ydych chi’n ei angen mewn fformat arall, mae cymorth ar gael. Cysylltwch ag Abbie Wood gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod, drwy e-bostio ehadmin@caerphilly.gov.uk neu drwy ffonio 01443 815588
This survey is available in English. Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg.
Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau
Defnyddir ymatebion yr arolwg i lywio datblygu’r Strategaeth Ansawdd Aer. Nid yw’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’n annibynnol, ond fe’u bydd yn cael eu cynnwys yn y Strategaeth wrth iddi gael ei datblygu yn ystod 2026.
Canlyniadau disgwyliedig
Defnyddir adborth yr ymgynghoriad hwn i:
• Lywio datblygu’r Strategaeth Ansawdd Aer
• Helpu i nodi camau blaenoriaeth a meysydd ffocws
• Sicrhau bod y Strategaeth yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau lleol
Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi cau, caiff yr ymatebion eu hadolygu a’u crynhoi.
Bydd y canfyddiadau’n helpu i lunio’r Strategaeth derfynol a llywio gwaith y dyfodol i wella ansawdd aer ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili.