Arddangosfa 2035 Tref Caerffili
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben
Dysgwch ragor am Dref Caerffili 2035
Rydyn ni’n cynnal arddangosfa mis o hyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am brosiectau Tref Caerffili 2035 hyd yma – ac rydyn ni am glywed eich barn am y cynlluniau arfaethedig yng nghanol y dref.
Llyfrgell Caerffili
Y Twyn, Caerffili CF83 1JL
16 Hydref - 10 Tachwedd 2023
Yn ogystal â’r arddangosfa, dewch draw i gwrdd â thîm y prosiect a rhannu eich adborth, wyneb yn wyneb, ar y dyddiadau canlynol:
Llyfrgell Caerffili:
Dydd Mercher 18 Hydref (10am-4pm)
Dydd Sadwrn 28 Hydref (10am-4pm)
Dydd Gwener 10 Tachwedd (10am-4pm)
Y Twyn, Caerffili CF83 1JL
Canolfan y Vanguard:
Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023 (6-8pm)
Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Heol y Fan, Caerffili, CF83 IJZ
Bydd y digwyddiad gyda’r nos hwn yn gyfle i gwrdd â'r tîm ehangach sy'n ymwneud â phob prosiect, a chael ateb i'ch ymholiadau wyneb yn wyneb.
Methu dod? Gadewch unrhyw adborth sydd gennych chi am y prosiectau unigol drwy ein map neu arolwg ar-lein.
Pam ein bod ni’n ymgynghori
Nod y digwyddiad hwn yw hysbysu trigolion a busnesau am gynlluniau arfaethedig Tref Caerffili 2035 a chasglu adborth.
Mae rhai o'r prosiectau hyn eisoes wedi bod drwy ymgynghoriad cyhoeddus, fel y nodwyd, ond bydd cyfleoedd i chi ymgynghori'n ffurfiol ar brosiectau eraill wrth iddynt symud ymlaen.
Nid yw'r digwyddiad hwn yn ymgynghoriad ffurfiol.
Dweud Eich Dweud
Os hoffech chi rannu eich barn, defnyddiwch y map rhyngweithiol, cwblhau’r arolwg ar-lein, neu alw draw i ddigwyddiad wyneb yn wyneb i gael trafodaeth gyda thîm y prosiect ar y dyddiadau uchod. Mae cyfle hefyd i adael eich adborth yn y llyfrgell drwy gydol y digwyddiad.
Mae'r arolwg hwn hefyd ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd eraill ar gais.
Dylai trigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, cyfleusterau cyfieithu neu sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau gysylltu â’r tîm drwy anfon e-bost i TrefCaerffili2035@caerphilly.gov.uk neu ffonio 01443 815588.
Canlyniadau disgwyliedig
Bydd ymateb yn cael ei rannu drwy wefan y prosiect Trosolwg o’r Ymgysylltu – Hydref/Tachwedd 2023
_____________________________________________________________________________
Castell Caerffili 2025
Beth
Mae £10 miliwn wedi’i fuddsoddi i drawsnewid caer ganoloesol fwyaf Cymru, Castell Caerffili. Bydd Cadw yn creu cyfleusterau newydd, arddangosfeydd rhyngweithiol ffres a mannau chwarae hwyliog i ymwelwyr.
Ble
Castell Caerffili.
Pam
Bydd y gwelliannau cyffrous hyn nid yn unig yn dod â Chastell Caerffili yn fyw ond hefyd yn gwarchod y castell i genedlaethau’r dyfodol ei archwilio a’i fwynhau.
Pryd
Mae cynlluniau’n mynd rhagddynt gyda cham 1 yn dechrau yn 2024 a cham 2 yn 2025. Disgwylir ei gwblhau yn 2026.
Cymryd rhan
Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf edrychwch ar y cynlluniau, a dilynwch y prosiect wrth iddo ddatblygu.
_____________________________________________________________________________
Canolfan Ddiwylliannol 2028
Beth
Mae Neuadd y Gweithwyr Caerffili – adeilad rhestredig gradd II – yn lleoliad celfyddydau ac adloniant cymunedol sydd wedi’i leoli gyferbyn â Chastell Caerffili enwog. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau gyda’r nos yma, ond mae angen gwaith cynnal a chadw brys. Yr uchelgais yw creu canolfan ddiwylliannol fywiog, hygyrch sy’n ffurfio canolbwynt creadigol wedi’i adfywio i’r dref.
Ble
Neuadd y Gweithwyr Caerffili – yng nghanol tref Caerffili.
Pam
Mae’r tîm o wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr ymroddedig yn awyddus i gynnal mwy o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar y gymuned a datblygu cyrchfan ddiwylliannol wedi’i hadfywio. Ond dim ond gyda chyllid allanol y gall ddigwydd.
Pryd
Mae’r prosiect ar gam cynnar iawn o’i ddatblygiad. Disgwylir tua 2028.
Cymryd rhan
Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf, edrychwch ar y cynlluniau, a dilynwch y prosiect wrth iddo ddatblygu.
_____________________________________________________________________________
Ffos Caerffili 2024
Beth
Bydd Ffos Caerffili yn ofod ecogyfeillgar, ffres, modern, amlswyddogaethol. Bydd yn cynnal cymysgedd o fwytai, siopau annibynnol lleol, mannau gweithio hyblyg, a digwyddiadau awyr agored.
Ble
Wedi’i leoli ar Cardiff Road, bydd Ffos Caerffili yn cysylltu’r stryd fawr â’r parc, ac yn darparu golygfeydd godidog dros y castell a chanol y dref. Lle perffaith i ddod at ein gilydd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Pam
Rydym yn ymateb i’r galw am farchnad fodern a mwy o leoedd i fwyta, yfed, siopa, gweithio a chwrdd yn dilyn cau’r farchnad dan do.
Pryd
Mae’r gwaith adeiladu sydd wedi’i gymeradwyo wedi hen ddechrau, a bydd Ffos Caerffili yn agor yn y flwyddyn newydd.
Cymryd rhan
Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf a pharatowch ar gyfer y lansiad yn 2024.
_____________________________________________________________________________
Ardal Gwesty a Hamdden 2028
Beth
Gwesty dull byw 80 gwely gyda chyfleusterau corfforaethol a phriodasau. Bydd y datblygiad hwn yn rhoi hwb i rwydwaith cryf Caerffili o ganolfannau busnes rhanbarthol a masnachwyr lleol sy’n cefnogi gofynion hamdden, twristiaeth a masnachol.
Ble
Cardiff Road.
Pam
Mae lleoliad arfaethedig yr Ardal Gwesty a Hamdden yn gyfle datblygu sylweddol i Gaerffili a’r ardaloedd cyfagos.
Pryd
Mae’r cynlluniau’n parhau i fod yn y camau cynnar. Disgwylir tua 2028.
Cymryd rhan
Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf edrychwch ar y cynlluniau, a dilynwch y prosiect wrth iddo ddatblygu.
___________________________________________________________________________________
Canolfan Hamdden a Lles 2026
Beth
Bydd Canolfan Hamdden a Lles newydd Caerffili yn gyfleuster blaenllaw ar gyfer y fwrdeistref sirol gyfan. Bydd y ganolfan yn cynnwys pwll nofio newydd, ystafell ffitrwydd o’r radd flaenaf, sba a chyfleusterau lles.
Ble
Bydd y cyfleuster wedi’i leoli ar dir ger Parc Busnes Caerffili.
Pam
Mae’r Ganolfan Hamdden a Lles arfaethedig yn gyfle datblygu sylweddol ar gyfer mwy o swyddi, twristiaeth, masnach newydd, a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghaerffili a’r fwrdeistref ehangach.
Pryd
Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Awst 2024 a disgwylir iddo agor ym mis Ionawr 2026.
Cymryd rhan
Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf, edrychwch ar y cynlluniau, a dilynwch y prosiect wrth iddo ddatblygu.
___________________________________________________________________________________
Fflatiau Pentrebane Street 2026
Beth
Mae Linc Cymru wedi partneru â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cymru i adeiladu 70 o fflatiau i drawsnewid Pentrebane Street. Bydd y datblygiad yn cynnig gofod busnes newydd sbon ac yn darparu tai fforddiadwy, modern.
Ble
Bydd y fflatiau wedi’u lleoli ar Pentrebane Street a Clive Street, yng nghanol tref Caerffili.
Pam
I adfywio canol y dref, cynyddu nifer yr ymwelwyr trwy hyrwyddo integreiddio byw, gweithio a siopa modern.
Pryd
Mae cynigion dylunio cychwynnol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Nid yw caniatâd cynllunio wedi’i sicrhau eto.
Cymryd rhan
Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf edrychwch ar y cynlluniau, a dilynwch y prosiect wrth iddo ddatblygu.
_____________________________________________________________________________
Cyfnewidfa Drafnidiaeth 2026
Beth
Fel rhan o Gynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035, bydd Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn cael ei chyflwyno i Dref Caerffili. Bydd y porth hwn yn croesawu ymwelwyr newydd tra’n darparu cyfleusterau gwych i deithwyr a’r gymuned.
Ble
Gorsaf Caerffili, Cardiff Road.
Pam
Creu cyrchfan nodedig a thrafnidiaeth gynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y cwsmer sy’n cysylltu pobl yn ddiymdrech â threnau, bysiau, teithio llesol a thacsis yng Nghaerffili.
Pryd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru ar y cynllun cyfnewidfa, gyda’r nod o’i gael yn barod i’w ddefnyddio erbyn diwedd 2026.
Cymryd rhan
Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf, edrychwch ar y cynlluniau, a dilynwch y prosiect wrth iddo ddatblygu.
________________________________________________________________________________________
Map tref Caerffili