Arolwg Pwls – Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC): Ynni a Datgarboneiddio
Rhannu Arolwg Pwls – Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC): Ynni a Datgarboneiddio ar FacebookRhannu Arolwg Pwls – Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC): Ynni a Datgarboneiddio Ar TwitterRhannu Arolwg Pwls – Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC): Ynni a Datgarboneiddio Ar LinkedInE-bost Arolwg Pwls – Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC): Ynni a Datgarboneiddio dolen
Trosolwg:
Mae Cartrefi Caerffili yn cynnal cyfres o arolygon ‘pwls’ bach rhwng y prif arolwg boddhad tenantiaid i archwilio rhai pynciau yn fanylach. Mae'r arolwg hwn ynghylch perfformiad ynni cartrefi'r Cyngor fel rhan o fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.
Nod yr arolwg yw cael adborth gan denantiaid (deiliaid contract) ynghylch gwelliannau i wneud cartrefi'n gynhesach, yn iachach, yn fwy cyfforddus ac yn rhatach i'w gwresogi, wrth leihau allyriadau carbon ac ategu dyfodol mwy cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu llunio penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol a sicrhau bod gwelliannau'n cael eu cyflawni mewn ffordd sy'n gweithio i'n tenantiaid.
Bydd sampl gynrychioliadol o 400 o denantiaid yn cael eu cyfweld dros y ffôn ym mis Awst 2026. Bydd galwadau yn dod gan 01908 047948, sef rhif ffôn canolfan alwadau Prevision Research yn Milton Keynes.
Pam rydyn ni'n ymgynghori:
Rhaid i Cartrefi Caerffili wneud penderfyniadau buddsoddi i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, ac rydyn ni eisiau cynnwys tenantiaid wrth lunio'r penderfyniadau hyn. Rydyn ni wedi cyflogi cwmni ymchwil annibynnol i gynnal yr arolwg, i wneud yn siŵr bod yr arolwg yn annibynnol ac yn ddibynadwy.
Ffyrdd o fynegi eich barn:
Nid yw hwn yn ymgynghoriad agored. Rydyn ni'n defnyddio dull wedi'i dargedu ac yn ymgysylltu yn uniongyrchol â detholiad sampl o denantiaid. Bydd ARP Research neu eu partneriaid, Prevision Research, yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.
Canlyniadau disgwyliedig:
Mewnwelediad tenantiaid ar berfformiad ynni ein cartrefi fel rhan o fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Adborth o ran gwelliannau posibl i wneud cartrefi'n gynhesach, yn iachach, yn fwy cyfforddus ac yn rhatach i'w gwresogi, wrth leihau allyriadau carbon ac ategu dyfodol mwy cynaliadwy.
Dyddiad agor: Dydd Iau 20 Awst 2026.
Dyddiad cau: Penagored, targed o 400 o ymatebion