Cae 3G yn Ysgol Gyfun Gymunedol Risga a Chanolfan Hamdden Risga

Rhannu Cae 3G yn Ysgol Gyfun Gymunedol Risga a Chanolfan Hamdden Risga ar Facebook Rhannu Cae 3G yn Ysgol Gyfun Gymunedol Risga a Chanolfan Hamdden Risga Ar Twitter Rhannu Cae 3G yn Ysgol Gyfun Gymunedol Risga a Chanolfan Hamdden Risga Ar LinkedIn E-bost Cae 3G yn Ysgol Gyfun Gymunedol Risga a Chanolfan Hamdden Risga dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.

Gosod cae 3G rygbi a phêl-droed defnydd deuol maint llawn yn lle’r cae pob tywydd presennol yn Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga a Chanolfan Hamdden Rhisga.

Mae Cyngor Caerffili wedi sicrhau £1 miliwn o grant cyfalaf Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod cae 3G rygbi a phêl-droed defnydd deuol maint llawn i ddisodli’r cae pob tywydd presennol yn Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga a Chanolfan Hamdden Rhisga.

Mae’r cae pob tywydd presennol a’r seilwaith ategol yn cyrraedd diwedd eu hoes. Felly, nid yw’n addas i’r diben ar hyn o bryd, ond mae'n parhau i gael ei ddefnyddio yn ystod y dydd gan yr Ysgol Gyfun i gynorthwyo'r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm, a gyda’r nos ac ar benwythnosau gan amrywiaeth o glybiau chwaraeon cymunedol.

Pam rydym yn ymgynghori?

Why are we consulting* Ymgynghoriad statudol i gael barn y gymuned ar ddatblygiad ysgol arfaethedig cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

Mae'n ofyniad statudol i sicrhau bod y cais drafft ar gael i'w adolygu a rhoi sylwadau arno fe cyn ei gyflwyno'n ffurfiol ar gyfer cymeradwyaeth cynllunio.

Ffyrdd o roi eich barn

Os hoffech chi wneud sylw ar y cais, anfonwch e-bost i YmatebRL3G@Caerffili.gov.uk

Fel arall, gallwch chi ysgrifennu at:

Disodli cae chwaraeon Canolfan Hamdden Rhisga, Ymgynghoriad cyn cyflwyno cais, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gwasanaethau Eiddo, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

Ni fyddwch chi'n cael ymateb uniongyrchol i'ch sylwadau chi, ond, fel gofyniad statudol, bydd yr holl sylwadau yn ffurfio rhan o'r adroddiad ymgynghori cyn cyflwyno cais, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio ffurfiol.

Canlyniadau disgwyliedig

Adroddiad ymgynghori ar y cais, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio ffurfiol.