Llwybr Teithio Llesol – Caerffili – Cynllun 13 – Lewis Drive a llwybrau i orsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill, ac oddi yno

Rhannu Llwybr Teithio Llesol – Caerffili – Cynllun 13 – Lewis Drive a llwybrau i orsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill, ac oddi yno ar Facebook Rhannu Llwybr Teithio Llesol – Caerffili – Cynllun 13 – Lewis Drive a llwybrau i orsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill, ac oddi yno Ar Twitter Rhannu Llwybr Teithio Llesol – Caerffili – Cynllun 13 – Lewis Drive a llwybrau i orsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill, ac oddi yno Ar LinkedIn E-bost Llwybr Teithio Llesol – Caerffili – Cynllun 13 – Lewis Drive a llwybrau i orsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill, ac oddi yno dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.

Mae angen eich gwybodaeth leol chi arnom ni i wneud cerdded, beicio ac olwyno'n haws i bawb yn eich cymuned.

Mae'r Cyngor wedi datblygu'r prosiect hwn i wella llwybrau teithio llesol yng nghyffiniau Lewis Drive a gorsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill. Mae'r prosiect hwn, sef ‘Cynllun 13’, yn rhan o'n cynlluniau ni i wireddu'r Map. Mae'r llwybrau'n arwain i orsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill, ac oddi yno. Maen nhw hefyd yn cysylltu ardaloedd cyflogaeth allweddol ac ardaloedd preswyl. Bydd y prosiect yn sicrhau bod cerdded, olwyno a beicio yn haws ac yn fwy diogel i bawb ar gyfer teithiau pob dydd.

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ceisio barn ar y cynigion cychwynnol.

Mae rhai o'r llwybrau sy'n rhan o'r cynnig yn cynnwys cyfuniad o welliannau o ran cerdded, olwyno a beicio. Mae llwybrau eraill wedi'u nodi i ddarparu gwelliannau o ran cerdded ac olwyno yn unig. Mae disgrifiad o bob llwybr unigol wedi'i ddarparu isod.

Llwybrau cerdded, olwyno a beicio:

  • Llwybr 1: Cyffordd Brynhyfryd â Llwyn-on Street a Court Road. Rydyn ni am ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio i orsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill, ac oddi yno. Rydyn ni hefyd yn cynnig gwelliannau ar hyd Llwyn-on Street, sy'n arwain i'r orsaf reilffordd. (Mae'r llwybr hwn wedi'i nodi ar y Map fel INMC 55.)
  • Llwybr 2: Llwybr o Heol Pontygwindy, ar hyd ffordd wasanaeth Asda ac ymlaen i Lewis Drive. Mae'r llwybr yn dod i ben yng ngorsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill. Rydyn ni am wella mynediad i'r orsaf reilffordd o ardal ehangach yng Nghaerffili. Byddai'r llwybr hwn hefyd yn gwella mynediad i ardaloedd yn Ystâd Ddiwydiannol Pontygwindy. (Mae'r llwybr hwn wedi'i nodi ar y Map fel INMC 57.)
  • Llwybr 3: Llwybr sy'n arwain i'r gogledd o Lewis Drive, ar hyd ffordd fynediad fewnol yr ystâd ddiwydiannol. Byddai'r llwybr yn cysylltu â'r llwybr sy'n rhedeg ar hyd yr A469. Mae gwelliannau i fraich orllewinol Cylchfan Pwll-y-pant yn cael eu hystyried. (Mae'r llwybr hwn wedi'i nodi ar y Map fel INMC 59, INMC 87, INMC 69a ac INMC 69b.)
  • Llwybr 4: Llwybr ar hyd Central Street, yn cysylltu â Heol Pwllypant a Chylchfan Pwll-y-pant. (Mae'r llwybr hwn wedi'i nodi ar y Map fel rhan o INMC 87.)

Mae'r llwybrau canlynol yn darparu gwelliannau o ran cerdded ac olwyno yn unig:

  • Llwybr 5: Troedffordd rhwng y gogledd a'r de sy'n cysylltu Lewis Drive (y droedffordd i Asda) a Lewis Drive (Emlyn Drive). (Mae'r llwybr hwn wedi'i nodi ar y Map fel INMC 58.)
  • Llwybr 6: Llwybr sy'n arwain i'r de o orsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill, ar hyd Lewis Drive. Mae'r llwybr yn mynd heibio i Ysgol Gynradd Plas-y-Felin. Mae'r llwybr yn mynd ymlaen ar hyd Caenant Road, gan ddod i ben wrth y gyffordd â Mill Road. (Mae'r llwybr hwn hefyd yn rhan o INMC 58.)
  • Llwybr 7: Llwybr sy'n arwain i'r dwyrain o orsaf reilffordd Eneu'r-glyn a Pharc Churchill, ac yn cysylltu ag INMC 58. (Mae'r llwybr hwn wedi'i nodi ar y Map fel INMC 360.)

Drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn, mae'r Cyngor yn dymuno cael gwybod eich barn chi ar ba faterion neu rwystrau i deithio llesol sy'n bresennol ar hyd y llwybrau sydd wedi'u hamlinellu uchod. Rydyn ni hefyd yn ceisio'ch barn chi ar gynigion cychwynnol sydd wedi'u datblygu ar gyfer y llwybrau hyn i wella teithio llesol. Rydyn ni'n dymuno pwysleisio bod y cynigion cychwynnol hyn wedi'u datblygu'n gynnar, a bydd adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn helpu llywio'r cynllun sy'n cael ei ddatblygu.

Hoffem dynnu eich sylw at y ffaith bod dau gynllun gwahanol wedi'u datblygu ar gyfer Llwybr 3 (Sir Alfred Owen Way). Mae’r Cyngor am glywed eich barn ynghylch pa un o'r opsiynau dylunio wma ydych yn ffafrio.

Mae pob llwybr sydd wedi'i amlinellu uchod yn gysylltiedig ag arolwg, lle gallwch chi roi gwybod i ni am yr hyn rydych chi'n ei hoffi a'r hyn nad ydych chi'n ei hoffi am bob cynnig cychwynnol. Gallwch chi roi gwybod i ni a oes unrhyw beth rydyn ni wedi'i golli, neu a oes unrhyw nodweddion penodol yr hoffech chi i ni eu datblygu ymhellach.

Mae Map y Cyngor ar gael yma: Gweld map | MapDataCymru (llyw.cymru)

Pam rydym yn ymgynghori?

Cyflawni’r canlyniadau gorau i ddiwallu anghenion cymunedau lleol fel rhan o gyflawni Map Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor a chyflawni ein dyletswyddau o dan y Ddeddf Teithio Llesol .

Ffyrdd o roi eich barn

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal rhwng 9am ar 4 Hydref ac 11.59pm ar 25 Hydref 2024. Byddwch cystal â darparu eich ymatebion i'r ymgynghoriad hwn erbyn 11.59pm ar 25 Hydref 2024. Mae'n bosibl na fydd unrhyw ymatebion sy'n dod i law ar ôl yr amser hwn yn cael eu hystyried.

Er mwyn eich helpu chi i roi adborth, rydyn ni wedi paratoi arolwg i chi ei lenwi. Mae'n gofyn cwestiynau am bob llwybr. I roi eich ymateb, byddwch cystal â llenwi'r arolwg ar-lein – mae'r ddolen gyswllt ar y dudalen we hon.

Bydd deunyddiau ymgynghori dwyieithog hefyd yn cael eu darparu yn llyfrgell Caerffili (i'w gadarnhau ).

• Darparu cod QR ar gyfer mynediad hawdd i'r llwyfan ar-lein .

• Codi ymwybyddiaeth trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a lleol, ac unrhyw sianeli cyfathrebu lleol sydd ar gael .

• Bydd copïau caled o'r dogfennau ar gael yn llyfrgell Caerffili.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd canlyniadau ar gael o fewn 3 wythnos i ddiwrnod olaf yr ymgynghoriad. Bydd unrhyw adborth yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses ddylunio i ddatblygu'r dyluniadau manwl a fydd yn destun ymgynghoriad ar wahân. 

Beth yw teithio llesol?

Mae ‘teithio llesol’ yn cyfeirio at deithiau pob dydd sy'n cael eu gwneud drwy gerdded, olwyno neu feicio.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru basio'r Ddeddf Teithio Llesol yn 2013 i gynyddu lefelau teithio llesol drwy ddewis cerdded, defnyddio cadair olwyn a beicio yn lle gyrru ar gyfer teithiau ymarferol, pob dydd, fel siopa, cymudo, a chael mynediad at wasanaethau fel iechyd ac addysg. Mae teithio llesol yn gallu helpu lleihau allyriadau carbon ac mae hefyd yn gallu helpu'n ariannol drwy leihau'r ddibyniaeth ar geir ar gyfer teithiau byrrach.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i awdurdodau lleol ddangos i Lywodraeth Cymru ein bod ni'n gwneud gwelliannau i deithio llesol. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ddarparu adroddiadau bob blwyddyn a mapiau o lwybrau cerdded a beicio.