Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Coed Duon

Rhannu Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Coed Duon ar Facebook Rhannu Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Coed Duon Ar Twitter Rhannu Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Coed Duon Ar LinkedIn E-bost Canllaw ar gyfer y drafodaeth Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Coed Duon dolen

Pam rydyn ni’n cael y drafodaeth ‘Canol Tref Coed Duon Yfory’ â’n cymuned?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi comisiynu The Urbanists i ddatblygu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer canol tref Coed Duon. Bydd trafodaeth ‘Canol Tref Coed Duon Yfory’ yn ein helpu ni i sicrhau bod dymuniadau ac anghenion y gymuned yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Creu Lleoedd hwn.

Beth yw Cynllun Creu Lleoedd?

Mae Cynllun Creu Lleoedd yn gynllun hirdymor ar gyfer lle; mae’n nodi’r hyn sy’n unigryw am y lle ac yn awgrymu prosiectau a buddsoddiad a allai grymuso’r lle. Mae Cynlluniau Creu Lleoedd yn darparu’r cynllun sylfaenol ar gyfer gwella lle ac yn sicrhau bod yr holl agweddau sy’n gwneud lle’n wych i fyw, gweithio ac ymweld ag e yn cael eu hystyried. Mae Cynlluniau Creu Lleoedd llwyddiannus yn cael eu llywio gan wybodaeth arbenigwyr lleol.

Beth yw rôl y gymuned wrth lunio’r Cynllun Creu Lleoedd a dyfodol Coed Duon?

I sicrhau bod anghenion a dyheadau’r gymuned leol yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Creu Lleoedd, mae strategaeth ymgysylltu wedi cael ei datblygu. Mae’r strategaeth yn nodi’r trigolion, perchnogion busnes a grwpiau lleol fel rhanddeiliaid i’w hymgysylltu â nhw. Felly, mae’r canllaw hwn ar gyfer y drafodaeth wedi’i ddatblygu i ddarparu deunydd ategol i hwyluso’r gwaith ymgysylltu hwn.

Beth ydyn ni am ei gael o’r trafodaethau?

Yn syml, rydyn ni angen deall y pethau sydd pwysicaf i’r gymuned a grwpiau lleol, a’u huchelgeisiau ar gyfer canol tref Coed Duon.

Beth ydych chi ei angen gen i?

Ein helpu ni i gael y trafodaethau hynny! Fel cynghorwyr, partneriaid, grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol, bydd gennych chi grwpiau rydych chi’n ymwneud â nhw neu’n cael cyswllt rheolaidd â nhw. Hoffem ni gael eich cymorth chi i’n helpu ni i fynd allan a sgwrsio â chynifer o bobl â phosibl. Gweler isod rai canllawiau ac awgrymiadau ar gyfer dechrau’r drafodaeth:

  • Beth ydych chi’n meddwl sy’n unigryw am Coed Duon?
  • Beth sy’n gwneud Coed Duon yn arbennig?
  • Sut gallwn ni wella canol y dref?
  • Ydych chi’n beicio? Os nad ydych chi, pam ddim?
  • Ydych chi’n ymweld â chanol y dref? Os ydych chi, pa mor aml ac am ba reswm? Os nad ydych chi, pam ddim?
  • Ydy Coed Duon wedi’i gysylltu’n dda? Os nad ydy, sut gall hwn gael ei wella?
  • Pa fath o amwynderau a darpariaethau hoffech chi eu gweld ym Coed Duon?
  • Hoffech chi weld rhagor o goed a glesni yng nghanol y dref?
  • Beth hoffech chi ei wneud yng nghanol y dref sydd ddim yn bosibl ar hyn o bryd?
  • Sut ydych chi’n meddwl gall y dref gael ei gwella i gynorthwyo iechyd a lles trigolion?
  • Pa ddefnyddiau neu anghenion eraill y gymuned allai gael sylw?

Casglu gwybodaeth

Er mwyn casglu adborth, gallwch chi ddefnyddio ein byrddau trafod isod i adael eich sylwadau neu, fel arall, gallwch chi e-bostio eich sylwadau atom ni drwy greu fersiwn testun neu daenlen o'r sylwadau a'i anfon at: william.purdie@theurbanists.net

Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 10/11/23.

Mae chwe phrif gategori y dylai pob Cynllun Creu Lleoedd ei ystyried er mwyn sicrhau canlyniad o safon.

Y chwe chategori yw:

1. Pobl a'r gymuned

2. Lleoliad

3. Symud

4. Cymysgedd o ddefnyddiau

5. Tir y cyhoedd

6. Hunaniaeth

Trafodaethau: Holl (6) Agored (6)
  • Hunaniaeth

    tua 1 flwyddyn Ôl
    Rhannu Hunaniaeth ar Facebook Rhannu Hunaniaeth Ar Twitter Rhannu Hunaniaeth Ar LinkedIn E-bost Hunaniaeth dolen

    Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Hunaniaeth’? 

    Unrhyw sylw mewn perthynas ag ymdeimlad o berthyn/hunaniaeth gryf, cymuned gryf, digwyddiadau cymdeithasol, diwylliannol a chymunedol, mannau diogel a chynhwysol, treftadaeth a hanes lleol.

    Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.

  • Symud

    tua 1 flwyddyn Ôl
    Rhannu Symud ar Facebook Rhannu Symud Ar Twitter Rhannu Symud Ar LinkedIn E-bost Symud dolen

    Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Symud’? 

    Unrhyw sylw am symudiadau cerddwyr, beiciau a cherbydau, mannau parcio, trafnidiaeth gyhoeddus, hygyrchedd.

    Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.

  • Lleolaid

    tua 1 flwyddyn Ôl
    Rhannu Lleolaid ar Facebook Rhannu Lleolaid Ar Twitter Rhannu Lleolaid Ar LinkedIn E-bost Lleolaid dolen

    Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Lleoliad’? 

    Unrhyw sylw mewn perthynas â chyrchfannau lleol, cysylltiadau ag amwynderau lleol, cysylltedd digidol, bioamrywiaeth, effeithlonrwydd ynni.  

    Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.

  • Pobl a’r gymuned

    tua 1 flwyddyn Ôl
    Rhannu Pobl a’r gymuned ar Facebook Rhannu Pobl a’r gymuned Ar Twitter Rhannu Pobl a’r gymuned Ar LinkedIn E-bost Pobl a’r gymuned dolen

    Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Pobl a’r gymuned’? 

    Unrhyw sylw mewn perthynas ag iechyd a lles, ymgysylltu, ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth gymunedol.

    Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.

  • Tir y cyhoedd

    tua 1 flwyddyn Ôl
    Rhannu Tir y cyhoedd ar Facebook Rhannu Tir y cyhoedd Ar Twitter Rhannu Tir y cyhoedd Ar LinkedIn E-bost Tir y cyhoedd dolen

    Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Tir y cyhoedd’? 

    Unrhyw sylw mewn perthynas â niferoedd ac ansawdd o ran tir y cyhoedd, amwynderau awyr agored, darpariaethau chwaraeon, chwarae a hamdden, mannau ar gyfer digwyddiadau ac ymgynulliadau cymdeithasol digymell, parciau a mannau gwyrdd, rheoli dŵr, tir y cyhoedd cydnerth.

    Fel rhan o'ch sylw, nodwch y grŵp/grwpiau rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi'n ymateb fel un o drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, aelod etholedig lleol, person busnes, yn cynrychioli sefydliad y trydydd sector, yn cynrychioli sefydliad arall y sector cyhoeddus, aelod o staff neu arall.

  • Cymysgedd o ddefnyddiau

    tua 1 flwyddyn Ôl
    Rhannu Cymysgedd o ddefnyddiau ar Facebook Rhannu Cymysgedd o ddefnyddiau Ar Twitter Rhannu Cymysgedd o ddefnyddiau Ar LinkedIn E-bost Cymysgedd o ddefnyddiau dolen

    Beth i’w gynnwys yn y categori ‘Cymysgedd o ddefnyddiau’? 

    Unrhyw sylw mewn perthynas â’r arlwy manwerthu, yr arlwy bwyd a diod, nifer yr unedau preswyl sydd eu hangen, nifer yr ymwelwyr, gwasanaethau lleol, ffurfiau adeiladau, adeiladau hanesyddol a rhestredig, cyfradd wacter, ansawdd stoc adeiladau.