Canolfan Hamdden Pontllan-fraith

Rhannu Canolfan Hamdden Pontllan-fraith ar Facebook Rhannu Canolfan Hamdden Pontllan-fraith Ar Twitter Rhannu Canolfan Hamdden Pontllan-fraith Ar LinkedIn E-bost Canolfan Hamdden Pontllan-fraith dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben 

Pam ydym ni'n ymgynghori?

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno i ymgynghori ar gynnig a fyddai’n arwain at gau Canolfan Hamdden Pontllan-fraith yn barhaol, gyda chyfleusterau chwaraeon yn y Ganolfan i Ddysgwyr Agored i Niwed gerllaw ar gael at ddefnydd cymunedol y tu allan i oriau ysgol o Gwanwyn 2025.

Hefyd yn rhan o'r cynnig, byddai'r defnydd o'r cae 3G ar safle Canolfan Hamdden Pontllan-fraith yn dod i ben unwaith y byddai'r cae 3G yn y Ganolfan i Ddysgwyr Agored i Niwed gerllaw ar agor i'w ddefnyddio gan y gymuned.

Ffyrdd o roi eich barn

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng Dydd Llun 20 Tachwedd 2023 a Dydd Mercher 3 Ionawr 2024. 

Os hoffech rannu eich barn, cwblhewch yr arolwg ar-lein neu argraffu’r arolwg a'i ddychwelyd yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tîm Ymgysylltu, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.

Mae'r arolwg hwn ar gael yn Gymraeg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. This survey is available in Welsh. It is available in other languages and formats on request.

Fe'ch gwahoddir hefyd i fynychu un o'r sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb isod:

Eglwys y Bedyddwyr Elim, Pontllan-fraithDydd Mawrth 28 Tachwedd 20235.30pm - 7.30pm
Canolfan Mileniwm Penllwyn (yn mynychu Digwyddiad Nadolig Partneriaeth Gymunedol Penllwyn)Dydd Mercher 6 Rhagfyr 20236pm tan ddiwedd y digwyddiad

Clwb Rygbi Pontllan-fraith

Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023

11am-1pm
Eglwys y Bedyddwyr Elim, Pontllan-fraithDydd Iau 14 Rhagfyr 20235.30pm - 7.30pm

Dylai trigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, cyfleusterau cyfieithu neu sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau gysylltu â’r tîm drwy anfon e-bost at ymgysylltiadcyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864354.

Sgwrsiwch â'r tîm yn un o'r sesiynau ar-lein canlynol:

Dydd Mawrth, 28 Tachwedd 202312 canol dydd
Dydd Mercher, 6ed Rhagfyr, 202311:00am

I fynychu un o'r sesiynau hyn, anfonwch e-bost at ymgysylltiadcyhoeddus@caerffili.gov.uk gan nodi'r dyddiad sydd orau gennych.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i'r Cabinet ar gyfer penderfyniad. Mae adroddiad adborth ar gael ar y dudalen hon.