Cartrefi ar gyfer y dyfodol – beth sy'n bwysig i chi?
Rhannu Cartrefi ar gyfer y dyfodol – beth sy'n bwysig i chi? ar FacebookRhannu Cartrefi ar gyfer y dyfodol – beth sy'n bwysig i chi? Ar TwitterRhannu Cartrefi ar gyfer y dyfodol – beth sy'n bwysig i chi? Ar LinkedInE-bost Cartrefi ar gyfer y dyfodol – beth sy'n bwysig i chi? dolen
Mae'r Cyngor yn ceisio deall a mynd i'r afael ag anghenion ein trigolion hŷn ym mwrdeistref Caerffili yn well, trwy gydnabod yn well y rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu wrth symud i lety mwy addas yn hwyrach mewn bywyd.
Bydd y prosiect hwn yn helpu'r Cyngor i wella profiadau tai pobl yn hwyrach mewn bywyd drwy :
Datblygu gwell dealltwriaeth o'r angen am dai .
Optimeiddio'r defnydd o gartrefi presennol a darparu cartrefi newydd.
Datblygu ystod o wasanaethau cyngor a chymorth .
Am gyfnod y prosiect hwn bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Housing LIN, arbenigwyr mewn ymchwilio i broblemau tai pobl hŷn a darparu atebion ymarferol a chadarnhaol i'r problemau y maen nhw’n eu hwynebu. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Housing LIN, ewch i'w gwefan https://www.housinglin.org.uk.
Pam rydym yn ymgynghori?
Rydyn ni’n gwybod y gallai anghenion tai a chymorth pobl yn hwyrach mewn bywyd newid dros amser. Rydyn ni am sicrhau bod y cynnig tai i bobl yn hwyrach mewn bywyd yn adlewyrchu eu hanghenion a'u dyheadau drwy sicrhau bod y mathau cywir o gartrefi yn cael eu darparu yn y lleoedd cywir gyda'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl i heneiddio'n gadarnhaol a byw'n annibynnol.
Dweud Eich Dweud
Bydd Housing LIN yn gwneud rhywfaint o ymchwil sylfaenol a fydd yn cynnwys arolwg drwy’r post, grwpiau ffocws a chyfweliadau. Bydd yr ymchwil yn digwydd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2025. Bydd pob cyfarfod yn cael ei gynnal mewn lleoliadau addas o fewn y fwrdeistref. Byddwn ni’n rhannu rhagor o wybodaeth am hyn wrth i'r prosiect ddatblygu.
Bydd pob ymatebydd yn cael ei gynnwys mewn raffl am gyfle i ennill un o bedwar taleb siopa gwerth £50!
Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request.
Dylai trigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, cyfleusterau cyfieithu neu sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau gysylltu â’r tîm drwy anfon e-bost at stratanddevelop@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 07873702399.
Canlyniadau disgwyliedig
Bydd Housing LIN yn darparu adroddiad i'r Cyngor sy'n darparu cyfres o argymhellion i wella'r cynnig tai i bobl yn ddiweddarach mewn bywyd.