Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2024

Rhannu Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2024 ar Facebook Rhannu Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2024 Ar Twitter Rhannu Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2024 Ar LinkedIn E-bost Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2024 dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.

Mae Cartrefi Caerffili angen eich help chi eto gydag arolwg hydref 2024, Eich Rhent – Eich Barn.

Rydyn ni am i denantiaid (deiliaid contract) roi eu barn i ni ynghylch a ydyn nhw'n meddwl bod eu rhent yn deg ac yn fforddiadwy. Rydyn ni hefyd eisiau gwybod rhagor am sut mae costau byw yn effeithio ar denantiaid.

Mae eich barn chi’n bwysig iawn i ni. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r adborth wrth benderfynu ar gostau rhent ar gyfer 2025/26 ac i ddeall sut y gallwn ni helpu tenantiaid yn y dyfodol.

Mae gofyn i denantiaid fynegi'u barn drwy lenwi arolwg byr ar-lein. Mae modd darparu copïau papur ar gais.

Mae'r arolwg hwn ar gael yn Gymraeg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. Gallwch chi hefyd gwblhau'r arolwg dros y ffôn.

Ffoniwch ni ar 01443 811433 / 01443 811439 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk

Bydd pob tenant sy'n cymryd rhan ac yn darparu eu manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn raffl – bydd un person lwcus yn ennill £150 a thri pherson arall yn ennill £60 ar ffurf talebau siopa.

Bydd yr arolwg yn gorffen ar 30 Medi 2024

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014, yn nodi bod yn rhaid i bob Awdurdod Tai Lleol yng Nghymru gydymffurfio â'r safonau, rheolau a chanllawiau ar gyfer Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Tai Cymdeithasol.

O ganlyniad, rhaid i fforddiadwyedd i denantiaid gynnwys holl gostau byw mewn eiddo e.e. rhent, taliadau gwasanaeth a chostau ynni eiddo, ac mae disgwyl i landlordiaid ystyried y costau hyn wrth bennu costau rhent bob blwyddyn.

Er mwyn dangos cydymffurfio â'r Safon, mae angen sicrwydd yn y meysydd canlynol o leiaf: Ymgysylltu ac ymgynghori effeithiol â thenantiaid gan gynnwys y fethodoleg a'r canlyniad/ymateb.