Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2025

Rhannu Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2025 ar Facebook Rhannu Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2025 Ar Twitter Rhannu Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2025 Ar LinkedIn E-bost Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn 2025 dolen

Mae Cartrefi Caerffili angen eich help chi eto gydag arolwg hydref 2025, Eich Rhent – Eich Barn.

Mae angen eich help chi arnom ni. Rhydyn ni am i denantiaid (deiliaid contract) roi eu barn i ni ynghylch a ydyn nhw'n meddwl bod eu rhent yn deg ac yn fforddiadwy. Rydyn ni hefyd eisiau gwybod rhagor am sut mae costau byw yn effeithio ar denantiaid.

Mae eich barn chi’n bwysig iawn i ni. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r adborth wrth benderfynu ar gostau rhent ar gyfer 2026/27 ac i ddeall sut y gallwn ni helpu tenantiaid yn y dyfodol.

Mae gofyn i denantiaid fynegi'u barn drwy lenwi arolwg byr ar-lein. Mae modd darparu copïau papur ar gais.

Bydd pob tenant sy'n cymryd rhan ac yn darparu eu manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn raffl – bydd un person lwcus yn ennill £150 a thri pherson arall yn ennill £60 ar ffurf talebau siopa.

Mae'r arolwg hwn ar gael yn Gymraeg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. Gallwch chi hefyd gwblhau'r arolwg dros y ffôn. Mae modd darparu copïau papur ar gais.

Ffoniwch ni ar 01443 811433 / 01443 811439 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk

Bydd yr arolwg yn gorffen ar 30 Medi 2025

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014, yn nodi bod yn rhaid i bob Awdurdod Tai Lleol yng Nghymru gydymffurfio â'r safonau, rheolau a chanllawiau ar gyfer Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Tai Cymdeithasol.

O ganlyniad, rhaid i fforddiadwyedd i denantiaid gynnwys holl gostau byw mewn eiddo e.e. rhent, taliadau gwasanaeth a chostau ynni eiddo, ac mae disgwyl i landlordiaid ystyried y costau hyn wrth bennu costau rhent bob blwyddyn.

Er mwyn dangos cydymffurfio â'r Safon, mae angen sicrwydd yn y meysydd canlynol o leiaf: Ymgysylltu ac ymgynghori effeithiol â thenantiaid gan gynnwys y fethodoleg a'r canlyniad/ymateb.

Diweddaru: 29 Awst 2025, 12:11 PM