Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn Hydref 2026

Rhannu Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn Hydref 2026 ar Facebook Rhannu Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn Hydref 2026 Ar Twitter Rhannu Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn Hydref 2026 Ar LinkedIn E-bost Cartrefi Caerffili: Eich Rhent – Eich Barn Hydref 2026 dolen

Rhowch eich barn

Hoffem ni i denantiaid (deiliaid contract) rannu eu barn ar rent ac a ydyn nhw'n ystyried ei fod yn fforddiadwy. Hefyd, rydyn ni eisiau gwybod sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnoch chi, er mwyn deall sut y gallwn ni gynorthwyo tenantiaid yn y dyfodol.

Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni a bydd yn helpu'r Cyngor wrth bennu taliadau rhent ar gyfer 2027/28.

Bydd pob tenant sy'n llenwi’r arolwg ac yn darparu eu manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn raffl – bydd un person yn ennill £150 ar ffurf taleb siopa a thri pherson arall yn ennill £60 ar ffurf talebau siopa. Mae gofyn i denantiaid fynegi eu barn drwy lenwi Arolwg byr ar-lein

Dyddiad cau: 29 Medi 2026

Os oes angen cymorth arnoch chi i lenwi'r arolwg, cael copi ar bapur, neu gael yr arolwg mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â:

Ffôn: 01443 811433 neu 01443 811439 neu E-bost: CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014, yn nodi bod yn rhaid i bob Awdurdod Tai Lleol yng Nghymru gydymffurfio â'r safonau, rheolau a chanllawiau ar gyfer Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Tai Cymdeithasol.

O ganlyniad, rhaid i fforddiadwyedd i denantiaid gynnwys holl gostau byw mewn eiddo e.e. rhent, taliadau gwasanaeth a chostau ynni eiddo, ac mae disgwyl i landlordiaid ystyried y costau hyn wrth bennu costau rhent bob blwyddyn.

Er mwyn dangos cydymffurfio â'r Safon, mae angen sicrwydd yn y meysydd canlynol o leiaf: Ymgysylltu ac ymgynghori effeithiol â thenantiaid gan gynnwys y fethodoleg a'r canlyniad/ymateb.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd yr adborth sy'n dod i law o’r arolwg yn cael ei ystyried gan y Cyngor wrth bennu ei gostau rhent ar gyfer blwyddyn rhent 2027/28.

Cyhoeddi: 27 Awst 2026, 09:00 AC