Cwmpas y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Dylunio Deiliaid Tai

Rhannu Cwmpas y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Dylunio Deiliaid Tai ar Facebook Rhannu Cwmpas y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Dylunio Deiliaid Tai Ar Twitter Rhannu Cwmpas y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Dylunio Deiliaid Tai Ar LinkedIn E-bost Cwmpas y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Dylunio Deiliaid Tai dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben 

Hoffem ni gael eich barn chi ar gwmpas y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Dylunio Deiliaid Tai arfaethedig, dogfen a fydd yn rhoi arweiniad ychwanegol ar sut y dylid dehongli’r polisïau sy’n ymwneud â dylunio yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae wedi'i anelu at weithwyr dylunio adeiledig proffesiynol, er enghraifft, penseiri, dylunwyr a datblygwyr trefol, perchnogion tai, a Swyddogion ac Aelodau'r Cyngor, ond bydd hefyd yn berthnasol i unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn darparu dylunio preswyl a mannau cyhoeddus o safon.

Hoffen ni glywed eich barn chi am y ddogfen hon a beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn fawr iawn.

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Er mwyn caniatáu i'r cyhoedd wneud sylwadau ar gwmpas y Ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ddylunio i Ddeiliaid Tai, a chyfrannu ato.

Ffyrdd o fynegi eich barn chi

Llenwch yr arolwg i roi sylwadau ar y ddogfen gwmpasu. Mae'r arolwg ar gael ar-lein neu ar bapur ar gais.

Rhaid dychwelyd copïau papur o’r arolwg sydd wedi'u llenwi i Creu Lleoedd a Threftadaeth, Cynllunio, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF.

Sylwch fod yn rhaid i bob arolwg wedi'i lenwi ddod i law erbyn hanner nos ddydd 24 Mai 2024 fan bellaf. Ni fydd arolygon sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ddogfen hon neu’r ymgysylltiad, rhowch wybod i ni ar 01443 864 432 neu CreuLleoedd@caerffili.gov.uk.

Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd sylwadau'r cyhoedd yn dylanwadu ar gynnwys y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Dylunio Deiliaid Tai.