Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 - Amcanion a Chamau Gweithredu

Rhannu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 - Amcanion a Chamau Gweithredu ar Facebook Rhannu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 - Amcanion a Chamau Gweithredu Ar Twitter Rhannu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 - Amcanion a Chamau Gweithredu Ar LinkedIn E-bost Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 - Amcanion a Chamau Gweithredu dolen

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft wedi’i ddatblygu i ddangos yn bennaf ymrwymiad y Cyngor i fodloni Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 yn cynnwys 7 amcan cydraddoldeb sy'n amlinellu sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu cyflawni ei ymrwymiadau cydraddoldeb, tra'n parhau i fod yn sefydliad cynhwysol nad yw'n goddef gwahaniaethu.

Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar yr Amcanion Cydraddoldeb arfaethedig a amlinellwyd yn y Cynllun drafft, a nodi camau gweithredu allweddol ar gyfer cyflawni'r amcanion hyn wrth symud ymlaen.

Pam ydym ni'n ymgynghori?

Yng Nghymru mae dyletswyddau statudol penodol, sef rheoliadau sy'n nodi'r camau y mae'n rhaid i'r Cyngor eu cymryd i gydymffurfio. Cyhoeddwyd Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2011, ac un o'r meysydd yw gosod Amcanion Cydraddoldeb.

Amcanion Cydraddoldeb – paratoi a chyhoeddi set o amcanion cydraddoldeb sy'n bodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Rydym felly yn ymgynghori ar ein Hamcanion Cydraddoldeb a chamau gweithredu cysylltiedig, i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn cwmpasu'r meysydd sy'n bwysig i ddinasyddion Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Ffyrdd o roi eich barn

Cwblhewch yr arolwg ar-lein yma

Os yw'n well gennych, gallwch argraffu'r arolwg a'i ddychwelyd yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tîm Cydraddoldeb a'r Gymraeg, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG.

Gallwch hefyd ofyn am fersiwn papur o'r arolwg neu mewn fformatau eraill drwy e-bostio cydraddoldeb@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864404 / 01443 864353. Gellir dod o hyd i gopïau caled hefyd yn eich llyfrgell CBSC agosaf.

Gellir dychwelyd copïau papur wedi’u cwblhau i staff y llyfrgell erbyn y 1 Rhagfyr 2023.

Mae'r arolwg hwn ar gael yn Gymraeg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. This survey is available in Welsh. It is available in other languages and formats on request.

Canlyniadau disgwyliedig

Cyhoeddir crynodeb o’r canlyniadau ym mis Ebrill 2024, ochr yn ochr â Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028, yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet a’r Cyngor Llawn.

Fideo IAP - Cyflwyniad i Gynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-2028 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Fideo IAP - Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-2028 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Amcanion a Chamau Gweithredu