Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru – Arolwg Ynni Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Rhannu Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru – Arolwg Ynni Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Facebook Rhannu Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru – Arolwg Ynni Ymgysylltu â’r Cyhoedd Ar Twitter Rhannu Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru – Arolwg Ynni Ymgysylltu â’r Cyhoedd Ar LinkedIn E-bost Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru – Arolwg Ynni Ymgysylltu â’r Cyhoedd dolen

Consultation has concluded

Beth yw Cynllunio Ynni Ardal Leol?
Rydyn ni’n cynllunio ynni ardal leol ar gyfer 13 awdurdod lleol yng Nghymru, a hoffem ddeall eich defnydd presennol chi o ynni a thrafnidiaeth a’ch cynlluniau chi ar gyfer y dyfodol.

Gweler y ddolen i fideo a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth am Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru:

Pwy sy’n cynnal yr arolwg hwn?
Mae tîm Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru yn cael ei arwain gan Arup, gyda phartneriaid Yr Ymddiriedolaeth Garbon ac Afallen. Rydyn ni’n gwneud y gwaith Cynllunio Ynni Ardal Leol ar ran Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Sut byddwn ni’n defnyddio’r data rydych chi’n ei ddarparu
Byddwn ni’n defnyddio’r canlyniadau i lywio ein dadansoddiad o dechnolegau’r dyfodol ar gyfer gwresogi, cludo a chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Bydd cynllun ynni’r ardal leol yn tynnu sylw at gamau gweithredu posibl yn y dyfodol ar gyfer cynghorau lleol, darparwyr rhwydweithiau trydan a nwy, a phartïon lleol eraill, gan helpu pob ardal awdurdod lleol i symud at ffynonellau ynni mwy ecogyfeillgar. Bydd data’n cael ei gyfuno ac ni fydd data personol / unigol yn cael ei ddefnyddio.

Diogelu data a chyfrinachedd
Caiff eich data chi ei brosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data 2016 (GDPR). Bydd yr holl wybodaeth sy’n cael ei chasglu amdanoch chi yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol. Bydd yr holl ddata electronig yn cael ei storio fel ffeil wedi’i hamgryptio ar ffeil gyfrifiadurol sy’n cael ei diogelu gan gyfrinair. Bydd tîm Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru yn Arup a’r Ymddiriedolaeth Garbon yn edrych ar eich data. Ni fydd modd adnabod eich atebion unigol.

Caniatâd
Rydych chi’n cydsynio’n wirfoddol i gymryd rhan yn yr arolwg yma ac yn deall eich bod chi’n gallu gwrthod ateb cwestiynau, a’ch bod yn gallu tynnu'n ôl o'r arolwg ar unrhyw adeg, heb orfod rhoi rheswm.

Bydd yr holiadur yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.

Dyddiad cau
Cyflwynwch eich ymateb cyn ddydd Sul 31 Rhagfyr 2023.