Rhannu Cynnig Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar FacebookRhannu Cynnig Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Ar TwitterRhannu Cynnig Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Ar LinkedInE-bost Cynnig Ysgol Gyfun Cwm Rhymni dolen
Safle Y Gwyndy - Heol Pontygwindy, Caerffili CF83 3HG
Beth Rydym Ni'n Ei Gynnig?
Rhoi'r gorau i ddarpariaeth lloeren Y Gwyndy sy'n gweithredu ar hyn o bryd fel rhan o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac, o ganlyniad, lleihau capasiti cyffredinol yr ysgol a fyddai'n parhau i weithredu allan o safle Gelli-haf erbyn mis Medi 2027; a
Sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer dysgwyr rhwng 11 a 18 oed ar safle’r Gwyndy erbyn mis Medi 2027.
Dyddiad Cwblhau Disgwyliedig: Medi 2027
Dweud Eich Dweud
Mae'r cynnig hwn wedi'i ddatblygu drwy sawl blwyddyn o waith cydweithredol rhwng yr ysgol, ei Chorff Llywodraethu a'r Cyngor drwy'r broses Tîm o Amgylch yr Ysgol. Gan gydnabod yr angen i fynd i'r afael â heriau ariannol tymor hwy, cysylltodd yr ysgol â'r Cyngor i archwilio atebion cynaliadwy a fyddai'n cynorthwyo ei hyfywedd yn y dyfodol wrth ddiogelu darpariaeth addysgol. Wedyn, cafodd amrywiaeth o opsiynau posibl eu hystyried a'u gwerthuso'n ofalus.
Byddai'r cynnig yn galluogi addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg i barhau ar y ddau safle presennol, wrth greu dwy ysgolgynaliadwy ar wahân gyda'u harweinyddiaeth, trefniadau llywodraethu a dalgylchoedd eu hunain.
Rhagwelir y byddai gan y cynnig effaith fach iawn o ddydd i ddydd ar ddysgwyr, staff a chymunedau'r ysgol ehangach, gan y byddai disgyblion yn parhau i gael eu haddysgu ar eu safleoedd presennol, gan gael mynediad at amgylcheddau dysgu cyfarwydd ac elwa ar barhad yn y ddarpariaeth addysgol.
Mae'r cynnig wedi'i ddatblygu i gynorthwyo cynaliadwyedd hirdymor addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg, cryfhau capasiti arweinyddiaeth, gwella'r defnydd effeithiol o adnoddau a chynorthwyo twf parhaus addysg cyfrwng Cymraeg ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae'r gofyniad i ymgynghori yn berthnasol i bob un o'n cynigion ysgolion sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir (fel y'i diffinnir gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018). Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori a fydd yn cael ei ystyried gan ein Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ac a Chabinet y Cyngor.
Mae Cam 1 o'r broses wedi'i gynllunio i gasglu'ch barn a fydd yn cael ei chrynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori.
Er mwyn i'r rhain gael eu cynnwys, rhaid eu cyflwyno'n ysgrifenedig a'u cyflwyno o fewn dyddiadau'r cyfnod ymgynghori.
Mae cam 4 o'r broses yn darparu bod unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu cynnig trefniadaeth ysgol yn cael cyfle i wneud hynny. Er mwyn cael eu hystyried yn wrthwynebiadau statudol, rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig a'u hanfon at y Cyngor o fewn y cyfnod o 28 diwrnod.