Dyfodol Ffordd Goedwig Cwmcarn yn edrych yn ddisglair
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.
Gall Ffordd Goedwig Cwmcarn, sef atyniad poblogaidd i ymwelwyr yng nghalon cymoedd de Cymru fod â dyfodol newydd cyffrous, yn sgil cydweithrediad newydd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector preifat.
Mae Cabinet Cyngor Caerffili wedi cytuno i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i chwilio ar y cyd am bartner sector preifat i wella Ffordd Goedwig a Chanolfan i Ymwelwyr Cwmcarn ymhellach. Mae'r safle, sy'n boblogaidd gyda beicwyr mynydd a cherddwyr, yn cynnig llwybr golygfaol syfrdanol, yn ogystal â chanolfan ymwelwyr, siop goffi, cyfleusterau gwersylla, mannau chwarae a chabanau.
Bydd y cydweithrediad yn ceisio adeiladu ar y cynigion a gafodd eu cyflwyno gan y Cyngor yn 2022, fel rhan o'i gais am gyllid gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i wella'r arlwy atyniadau ar y safle.
Mae asiant wedi'i benodi, a fydd yn marchnata'r safle a cheisio partïon â diddordeb i gyflwyno opsiynau i'w hystyried ar gyfer dyfodol Ffordd Goedwig Cwmcarn.
Pam rydyn ni'n ymgysylltu?
Er mwyn rhoi gwybod i drigolion ac ymwelwyr am y cynlluniau.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Dod i sesiwn galw heibio wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Ymwelwyr Ffordd Goedwig Cwmcarn ar y dyddiau canlynol:
Dydd Mercher 16 Hydref 2024 2–4pm
Dydd Sul 20 Hydref 2024 10am–12pm
Dydd Gwener 25 Hydref 2024 10am–12pm
Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, gysylltu â’r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864354.
Canlyniadau disgwyliedig
Mae'r Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arwyddo cytundeb i fwrw ymlaen â chynlluniau uchelgeisiol i gynnig y safle ar y cyd i ddatblygwr masnachol, a thrwy hynny, wella'r atyniad o ran twristiaeth, gan hefyd ddileu'r costau sy'n gysylltiedig â rheoli'r safle.
I gael rhagor o wybodaeth am Ffordd Goedwig Cwmcarn, ewch i: www.cwmcarnforest.co.uk/cy