Ymgynghoriad Ysgol Fabanod Cwm Glas

Rhannu Ymgynghoriad Ysgol Fabanod Cwm Glas ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Ysgol Fabanod Cwm Glas Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Ysgol Fabanod Cwm Glas Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Ysgol Fabanod Cwm Glas dolen

Beth rydyn ni'n ei gynnig?

Cau Ysgol Fabanod Cwm Glas

Oherwydd bod nifer y disgyblion yn Ysgol Fabanod Cwm Glas yn gostwng, a rhagwelir y bydd yn gostwng ymhellach, cafodd cyfarfod ei drefnu gan y Pennaeth a'r Corff Llywodraethu gyda chynrychiolwyr o'r Awdurdod Lleol, gan gynnwys y Prif Swyddog Addysg, i drafod hyfywedd yr ysgol yn y dyfodol. Cytunwyd yn y cyfarfod na allai'r ysgol bellach gynnal cyllideb gytbwys a lefel staffio briodol, felly gwnaed penderfyniad gan Bennaeth a Chorff Llywodraethu yr ysgol i gau Ysgol Fabanod Cwm Glas o fis Gorffennaf 2024.

Mae disgyblion Ysgol Fabanod Cwm Glas ar hyn o bryd yn pontio i Ysgol Coed Y Brain ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Mae'r cynnig yn ceisio pontio'r disgyblion Cyfnod Sylfaen er mwyn sicrhau darpariaeth ysgol gynradd gynhwysol i bob oedran o fis Medi 2024. Bydd hyn yn arwain at gau Ysgol Fabanod Cwm Glas.

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Mae'r gofyniad i ymgynghori yn berthnasol i bob un o'n cynigion ysgolion sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir (fel y'i diffinnir gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018). Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori a fydd yn cael ei ystyried gan ein Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ac a Chabinet y Cyngor.

Mae Cam 1 o'r broses wedi'i gynllunio i gasglu'ch barn a fydd yn cael ei chrynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori.

Er mwyn i'r rhain gael eu cynnwys, rhaid eu cyflwyno'n ysgrifenedig a'u cyflwyno o fewn dyddiadau'r cyfnod ymgynghori.

Mae cam 3 o'r broses yn darparu bod unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu cynnig trefniadaeth ysgol yn cael cyfle i wneud hynny. Er mwyn cael eu hystyried yn wrthwynebiadau statudol, rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig a'u hanfon at y Cyngor o fewn y cyfnod o 28 diwrnod.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Post: Cynnig Ysgol Fabanod Cwm Glas

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

Cyfadran Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

E-bost: ysgolionyr21ainganrif@caerffili.gov.uk

Ymateb electronig: Trwy'r ddolen Microsoft Forms isod (Ar Gau)

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, dim ond ar Gam 3 y bydd Gwrthwynebiadau Ffurfiol yn ddilys, pan fydd yr Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi a'r cyfnod Gwrthwynebu’n agor.

Diweddaru: 07 Mar 2024, 08:25 AC