Ffioedd Trwyddedu
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddyletswydd statudol i weinyddu rhai Trwyddedau, Cofrestriadau, Cydsyniadau a Hawlenni. Mae'r tîm Trwyddedu yn adolygu ei ffioedd ar gyfer Trwyddedau, Cofrestriadau, Cydsyniadau a Hawlenni wedi'u gosod yn lleol ar gyfer 2023/2024.
Mae'r holl ffioedd Trwyddedu wedi'u gosod yn lleol yn cael eu hadolygu er mwyn adennill costau rhesymol darparu'r gwasanaeth. Nid yw’r rhain wedi’u diwygio ers 2019/2020.
Mae rhai ffioedd, er enghraifft Deddf Trwyddedu 2003, yn cael eu gosod gan y Llywodraeth Ganolog ac ni fyddan nhw'n rhan o'r adolygiad hwn. Mae ffioedd yn cael eu pennu ar sail adennill costau; cafodd ei nodi gan yr adolygiad y byddai angen cynyddu rhai ffioedd yn 23/24 i gwrdd â gwerthoedd adennill costau llawn a byddaiangen gostwng rhai eraill.
Bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i Aelodau ynghylch adennill costau llawn ffioedd ar gyfer pob math o drwydded. Bydd unrhyw sylwadau sy'n dod i law o'r ymgynghoriad hwn yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau i Aelodau a fydd yn pennu'r ffioedd a allai olygu adennill y costau llawn neu swm llai.
Hyd yr ymgynghoriad cyhoeddus
Dydd Iau 15 Mehefin i ddydd Iau 29 Mehefin 2023
Ffyrdd o roi eich barn
A fyddech chi cystal â threulio ychydig funudau yn mynegi eich barn ar y ffioedd arfaethedig ar gyfer 23/24.
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.
Aeth adroddiadau i'r Cabinet a'r Pwyllgorau Trwyddedu a Gamblo/Tacsis a Chyffredinol.
Roedd sylwadau'r ymatebwyr wedi'u cynnwys ym mhob un o'r adroddiadau i'r Aelodau eu hystyried cyn iddyn nhw benderfynu ar lefel y ffioedd i'w codi.
Mewn perthynas â ffioedd cerbydau a gweithredwyr, roedd yr ymgynghoriad ac yna roedd adroddiad i'r Aelod, a oedd wedyn yn cychwyn ar gyfnod arall o ymgynghori cyhoeddus cyn bod modd i ni osod y ffioedd ar gyfer y mathau hyn o drwyddedau.
Ers yr ymgynghoriad, cynyddodd cost y rhan fwyaf o ffioedd trwyddedu, ond roedd llawer ohonyn nhw heb eu diweddaru ers nifer o flynyddoedd gan nad oedden ni wedi adolygu o ystyried sefyllfa Covid.