Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddyletswydd statudol i weinyddu rhai trwyddedau, cofrestriadau a chydsyniadau. Mae'r tîm Trwyddedu yn adolygu ei ffioedd ar gyfer trwyddedau, cofrestriadau a chydsyniadau wedi'u gosod yn lleol ar gyfer 2025/2026.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Mae'r holl ffioedd trwyddedu wedi'u gosod yn lleol yn cael eu hadolygu er mwyn adennill costau rhesymol darparu'r gwasanaeth. Nid yw'r rhain wedi'u diwygio ers 2023/2024.
Mae rhai ffioedd, er enghraifft y rhai yn Neddf Trwyddedu 2003, yn cael pennu gan y Llywodraeth Ganolog ac ni fyddan nhw'n rhan o'r adolygiad hwn. Mae ffioedd yn cael eu pennu ar sail adennill costau; cafodd ei nodi gan yr adolygiad y byddai angen cynyddu rhai ffioedd yn 25/26 i gwrdd â gwerthoedd adennill costau llawn.
Bydd unrhyw sylwadau sy'n dod i law o'r ymgynghoriad hwn yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar gyfer Aelodau a fydd yn pennu'r ffioedd.
This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request. Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.
Canlyniadau disgwyliedig
Bydd adroddiadau sy'n cynnwys sylwadau o'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor perthnasol/Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddiol/Aelod Arweiniol y Cabinet i'w hystyried.