Fframwaith Cyfranogiad, Ymgysylltu ac Ymgynghori 2026-2033 (Drafft)

Rhannu Fframwaith Cyfranogiad, Ymgysylltu ac Ymgynghori 2026-2033 (Drafft) ar Facebook Rhannu Fframwaith Cyfranogiad, Ymgysylltu ac Ymgynghori 2026-2033 (Drafft) Ar Twitter Rhannu Fframwaith Cyfranogiad, Ymgysylltu ac Ymgynghori 2026-2033 (Drafft) Ar LinkedIn E-bost Fframwaith Cyfranogiad, Ymgysylltu ac Ymgynghori 2026-2033 (Drafft) dolen

Helpwch ni i adolygu fersiwn drafft ein Fframwaith Cyfranogiad, Ymgysylltu ac Ymgynghori

Rydyn ni’n diweddaru Fframwaith Cyfranogiad, Ymgysylltu ac Ymgynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae'r fframwaith hwn yn nodi sut y byddwn ni’n cynnwys trigolion, cymunedau, defnyddwyr gwasanaeth, staff, partneriaid a rhanddeiliaid eraill mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw. Mae'n disgrifio'r egwyddorion, y safonau a'r disgwyliadau a fydd yn llywio gweithgarwch cyfranogiad, ymgysylltu ac ymgynghori ar draws y Cyngor.

Cyn i'r fframwaith gael ei gwblhau, hoffwn ni glywed eich barn chi. Rydyn ni eisiau gwybod a yw'r dull arfaethedig yn glir, a oes unrhyw beth pwysig ar goll a sut y gallwn ni wella'r ddogfen.

Bydd eich adborth chi’n ein helpu ni i ddatblygu'r fframwaith terfynol, a sicrhau ei fod yn adlewyrchu arfer da ac anghenion y rhai sy'n ei ddefnyddio neu sy'n cael eu heffeithio ganddo.

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Rydyn ni am sicrhau bod y fframwaith yn darparu dull clir, ymarferol ac effeithiol o gyfranogiad, ymgysylltu ac ymgynghori ar draws y Cyngor.

Rydyn ni’n yn gofyn am adborth ar:

• A yw'r fframwaith yn nodi'r dull cywir?

• A yw'r wybodaeth yn glir ac yn hawdd ei deall?

• A oes unrhyw beth pwysig ar goll?

• A oes modd gwella’r ddogfen?

• A yw'n adlewyrchu anghenion a disgwyliadau trigolion, cymunedau, staff a rhanddeiliaid?

Bydd yr adborth sy’n dod i law yn cael ei ystyried cyn i'r fframwaith gael ei gwblhau a'i gyflwyno i'w gymeradwyo.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Mae modd i chi roi eich barn drwy wneud y canlynol:

Darllen y fframwaith drafft neu'r fersiwn gryno o'r ddogfen ddrafft

  • Llenwi ein holiadur ar-lein
  • Llenwi copi caled o'r holiadur

This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request.

Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.

Os nad oes modd i chi lenwi’r arolwg ond yr hoffech chi roi eich barn, cysylltwch â’r tîm yn YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864354 fel bod modd i chi roi eich barn yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi.

Byddwn ni hefyd yn gofyn i grwpiau cymunedol lleol rannu eu barn gyda ni.

Cyn mynychu sesiwn wyneb yn wyneb, mae gofyn i unrhyw un sydd â gofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r digwyddiadau, gysylltu â'r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864354.

Canlyniadau disgwyliedig

Unwaith y bydd y cyfnod ymgysylltu yn cau, bydd yr holl adborth yn cael ei adolygu a'i ystyried.

Bydd y fframwaith drafft yn cael ei ddiweddaru lle bo hynny'n briodol er mwyn adlewyrchu'r adborth sydd wedi dod i law. Bydd crynodeb o'r canfyddiadau ac unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud i'r fframwaith yn cael eu cyhoeddi yma ar ôl i'r Cabinet ei gymeradwyo yng nghanol mis Hydref 2026.

Cyhoeddi: 02 Sep 2026, 01:03 PM