Rhannu Gwaith Lliniaru Llifogydd - Wattsville ar FacebookRhannu Gwaith Lliniaru Llifogydd - Wattsville Ar TwitterRhannu Gwaith Lliniaru Llifogydd - Wattsville Ar LinkedInE-bost Gwaith Lliniaru Llifogydd - Wattsville dolen
Trosolwg
Rydyn ni’n ceisio eich barn ar Gynllun Rheoli Llifogydd Naturiol arfaethedig yn Nant Hafod Tudor, Wattsville. Mae'r dyluniad yn cynnwys cael gwared ar strwythur cwlfert (pibell) presennol ac agor y cwrs dŵr i wella gwydnwch rhag llifogydd yn yr ardal ac adfer y cwrs dŵr i gyflwr mwy naturiol. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd llwybr troed heb ei gofrestru sy’n darparu mynediad i fan gwyrdd ar hyn o bryd yn cau yn barhaol. Er mwyn cynnal mynediad, rydyn ni’n cynnig uwchraddio llwybr troed amgen heb ei gofrestru o Bafiliwn Maes Chwaraeon Grŵp Cymunedol Wattsville i'r un man gwyrdd. Er bod gan y llwybr presennol risiau nid oes unrhyw risiau ar y llwybr amgen ac felly mae'n darparu gwell hygyrchedd i bob defnyddiwr.
Pam rydyn ni'n ymgynghori
Rydyn ni am sicrhau bod trigolion lleol a rhanddeiliaid yn cael y cyfle i wneud sylwadau ar y newidiadau arfaethedig. Bydd eich adborth yn ein helpu ni i ddeall unrhyw bryderon a sicrhau bod y dyluniad terfynol yn bodloni anghenion y gymuned wrth ddarparu mesurau lliniaru llifogydd effeithiol.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Gallwch chi rannu eich barn trwy lenwi'r arolwg ar-lein trwy'r ddolen isod neu gysylltu â ni'n uniongyrchol gan ddefnyddio’r manylion wedi’u darparu isod.
Mae'r arolwg hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.
Canlyniadau disgwyliedig
Byddwn ni’n adolygu'r holl adborth sy’n dod i law ac yn ei ddefnyddio i lywio'r dyluniad terfynol. Bydd crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad a’r camau nesaf yn cael eu cyhoeddi ar wefan Trafodaeth Caerffili yma.