Ymgynghoriad ar ddyfodol y Gwasanaeth Prydau Prydlon

Rhannu Ymgynghoriad ar ddyfodol y Gwasanaeth Prydau Prydlon ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad ar ddyfodol y Gwasanaeth Prydau Prydlon Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad ar ddyfodol y Gwasanaeth Prydau Prydlon Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad ar ddyfodol y Gwasanaeth Prydau Prydlon dolen

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel llawer o awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, yn wynebu her ariannol enfawr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn mantoli’r gyllideb.

Mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau arbedion o tua £45 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf ac mae hyn ar ben yr £20 miliwn o arbedion parhaol sydd eisoes wedi'u nodi.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Ni allwn ni barhau i redeg ein gwasanaethau yn y ffordd arferol. Mae angen i ni archwilio pob opsiwn ac ystyried ffyrdd o wneud pethau'n wahanol."

"Rydw i am fod yn onest â’r gymuned, oherwydd mae'n amlwg bod maint yr arbedion yn golygu bod angen i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf."

Gwasanaeth Prydau Prydlon

Mae'r Cyngor yn gwneud cynnig i roi'r gorau i ddarparu ei wasanaeth prydau i gartrefi o ddiwedd mis Tachwedd 2024 a byddai'n cynorthwyo defnyddwyr presennol i fanteisio ar ddarpariaeth amgen. Byddai'r awdurdod hefyd yn cau ei gyfleusterau arlwyo staff yn ei bencadlys yn Nhŷ Penallta.

Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn cyflogi 22 aelod o staff a’r gost i’r Cyngor o ddarparu'r gwasanaeth bob blwyddyn yw tua £444,000. Pe bai unrhyw gynnig yn cael ei gytuno arno ar ôl ystyried adborth yr ymgynghoriad cyhoeddus, byddai cydweithwyr sy'n cael eu cyflogi gan y gwasanaeth yn cael eu cynorthwyo trwy bolisïau adnoddau dynol presennol y Cyngor.

Pryd bydd cyfle i fi ddweud fy nweud?

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Mawrth 30 Gorffennaf 2024 i 5pm ddydd Mawrth 10 Medi 2024.

Sut galla i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?

I gael cymorth o ran llenwi'r arolwg neu i ofyn am fformatau eraill, cysylltwch â'r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio +441443 864380.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i'r Cabinet am benderfyniad.

Cyhoeddi: 30 Jul 2024, 08:49 AC