Gweledigaeth Strategol Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2024–2028

Rhannu Gweledigaeth Strategol Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2024–2028 ar Facebook Rhannu Gweledigaeth Strategol Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2024–2028 Ar Twitter Rhannu Gweledigaeth Strategol Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2024–2028 Ar LinkedIn E-bost Gweledigaeth Strategol Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2024–2028 dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben 

Mae trigolion yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynllun beiddgar i drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaeth llyfrgell Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ei ddarparu yn y dyfodol.

Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae'n rhaid iddo arbed £45 miliwn i fantoli'r gyllideb. Mae nifer o wasanaethau'n cael eu hadolygu er mwyn nodi arbedion a sicrhau enillion o ran effeithlonrwydd.

Ar hyn o bryd, mae Caerffili yn gweithredu 18 o lyfrgelloedd ar wahân ledled y Fwrdeistref Sirol – un o'r niferoedd uchaf o safleoedd yng Nghymru.

Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth ‘LibraryLink’ arbennig a gwasanaeth llyfrgell digidol, gyda chyllideb gyffredinol o £3.4 miliwn ar gyfer llyfrgelloedd.

Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg o 22 Hydref 2024 am gyfnod o chwe wythnos ac yn gofyn am eich barn ar y weledigaeth strategol ddrafft.

Gofynnir i drigolion ddweud eu dweud ar y 4 amcan allweddol:

  • Gwella a datblygu’r gwasanaethau llyfrgelloedd a’r arlwy sydd ar gael
  • Helpu trigolion i gael mynediad at wybodaeth, cyngor, a chymorth mewn lleoliad Hwb
  • Rhoi anghenion y gymuned wrth galon ein hybiau canol trefi, er mwyn cynorthwyo ac annog rhagor o wytnwch i unigolion trwy gymorth a chyfeirio
  • Rhesymoli nifer yr adeiladau i wneud y mwyaf o adnoddau a gwella'r arlwy cyffredinol

Bydd yr ymgynghoriad yn helpu’r cyngor i ddeall anghenion y gymuned yn well er mwyn llywio datblygiad y weledigaeth hwb; model sydd wedi'i brofi a'i roi ar safle canolbwynt poblogaidd y llyfrgell yn Rhymni.

Mae'r weledigaeth yn nodi y byddai datblygu'r model Hwb yn arwain at leihau lleoliadau llyfrgelloedd yn gyffredinol, er mwyn galluogi'r Cyngor i ganolbwyntio ar ddatblygu hybiau canol tref gwell gan ddarparu dull siop-un-stop ar gyfer gwasanaethau cymunedol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Llyfrgelloedd, y Cynghorydd Carol Andrews, “Wrth archwilio’r weledigaeth ar gyfer dyfodol y gwasanaeth llyfrgelloedd, roedd yn amlwg eu bod nhw eisoes wedi dod yn llawer mwy na lleoedd i fenthyca a darllen llyfrau.

Rydyn ni wedi gweld sut mae esblygiad gwasanaethau digidol wedi gwella’r arlwy a chreu gwasanaethau sy’n llawer mwy cynhwysol. Rydyn ni am fynd â hynny un cam ymhellach a chreu amgylchedd Hwb sy’n gweithredu fel siop-un-stop i drigolion. Gofod cynnes a chroesawgar sy’n darparu mynediad parod at wasanaethau mewn lleoliad canol tref gyda mynediad hawdd at gysylltiadau trafnidiaeth lleol”.

Aeth ymlaen i ddweud, “Mae’n amlwg bod y pwysau ariannol wedi ein harwain ni i ystyried yr opsiynau i ddiogelu’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol ac mae hynny’n cynnwys y posibilrwydd o resymoli nifer y safleoedd sydd gennym ni. Dyna pam ei bod yn bwysig iawn i ni geisio amrywiaeth eang o safbwyntia u ar y cynnig, er mwyn i ni allu cael gwell dealltwriaeth o anghenion ein trigolion.”

Sut galla i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?

Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi ddweud eich dweud.

  • Llenwi arolwg ar-lein neu mae copïau caled ar gael o'ch Llyfrgell agosaf.  
  • Galw heibio am sgwrs yn un o'r sesiynau galw heibio anffurfiol canlynol:

Lleoliad sesiynau galw heibio:

Dyddiad:

Amser:

Llyfrgell Oakdale

Dydd Mawrth 29 Hydref

4-6pm

Llyfrgell Bedwas

Dydd Llun 4 Tachwedd

3-5pm

Llyfrgell Llanbradach

Dydd Mercher 6 Tachwedd

10am-12pm

Llyfrgell Abercarn

Dydd Iau 7 Tachwedd

3-5pm

Llyfrgell Abertridwr

Dydd Llun 11 Tachwedd

4-6pm

Llyfrgell Trecelyn

Dydd Mawrth 12 Tachwedd

4-6pm

Llyfrgell Tredegar Newydd

Dydd Mercher 13 Tachwedd

3-5pm

Llyfrgell Machen

Dydd Iau 14 Tachwedd

4-6pm

Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Nelson

Dydd Gwener 15 Tachwedd

10am-12pm

Llyfrgell Deri

Dydd Mercher 20 Tachwedd

4-6pm

Llyfrgell Aberbargoed

Dydd Iau 21 Tachwedd

3-5pm

Llyfrgell Caerphili

Dydd Gwener 22 Tachwedd

10-12pm

Llyfrgell Coed Duon

Dydd Sadwrn 23 Tachwedd

10-12pm

Llyfrgell Rhymni

Dydd Llun 25 Tachwedd

4-6pm

Llyfrgell Ystrad Mynach

Dydd Mawrth 26 Tachwedd

10-12pm

Llyfrgell Risca

Dydd Mercher 27 Tachwedd

11am-1pm

Canolfan Gymunedol Trelyn

Dydd Iau 28 Tachwedd

11am-1pm

Llyfrgell Bargod

Dydd Iau 28 Tachwedd

3-5pm

Dyddiad:
Amser:

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024

5-7pm

Ddyd Iau 14 Tachwedd 2024

11am-1pm

Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024

4-6pm

Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r digwyddiadau, gysylltu â'r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864380.

I gael cymorth o ran llenwi'r arolwg neu i ofyn am fformatau eraill, cysylltwch â'r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864380.