Rhannu Hamdden a pharciau – system cadw lle ar FacebookRhannu Hamdden a pharciau – system cadw lle Ar TwitterRhannu Hamdden a pharciau – system cadw lle Ar LinkedInE-bost Hamdden a pharciau – system cadw lle dolen
Rydyn ni'n ei gwneud hi'n haws cadw lle ar gyfer gweithgareddau hamdden, gan gynnwys caeau glaswellt mewn parciau. Fel rhan o'r gwaith o uwchraddio i System Rheoli Hamdden newydd, rydyn ni'n symud i ffwrdd o'r broses cadw lle bresennol ac yn newid i system wedi'i diweddaru.
Bydd y llwyfan newydd wedi'i gynllunio i symleiddio pethau a rhoi profiad mwy llyfn, haws ei ddefnyddio wrth gadw lle a rheoli eich cyfrif.
Rydym am glywed gennych
Er mwyn sicrhau bod y datrysiad newydd yn diwallu anghenion cwsmeriaid a staff, rydyn ni'n ymgysylltu â defnyddwyr. Bydd hyn yn caniatáu i ni gael mewnwelediadau ynghylch y canlynol:
Profiadau defnyddwyr o ran y broses cadw lle a'r system bresennol
Problemau neu gyfyngiadau y maen nhw'n eu hwynebu
Nodweddion a gwelliannau yr hoffen nhw eu gweld yn y system newydd
Awgrymiadau ar gyfer symleiddio a gwella taith gyffredinol y defnyddiwr
Mae ffurflenni papur ar gael mewn Canolfannau Hamdden.
This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request. Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.
Canlyniadau disgwyliedig
Rydyn ni'n casglu syniadau ac adborth i'n helpu ni i ddewis System Rheoli Hamdden arloesol, sy'n wydn, yn effeithlon ac yn canolbwyntio ar y cwsmer. Y nod yw gwneud pethau'n haws ac yn well i gwsmeriaid drwy ddefnyddio datrysiad clyfar, sy'n barod ar gyfer y dyfodol, ac sy'n gwella profiad cwsmeriaid o'r dechrau i'r diwedd.
Rydyn ni'n gweithio tuag at greu ffyrdd newydd o wneud pethau, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, gan wneud yn siŵr bod y broses cadw lle a gwasanaethau eraill yn syml, yn llyfn ac yn canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl ei eisiau.