Llwybr Teithio Llesol - Wattsville a Risca
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben
Gwybodaeth am y prosiect
Fel rhan o gyflawni Map Rhwydwaith Teithio Llesol, wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor, mae’r prosiect hwn yn edrych ar sut mae modd datblygu a darparu amrywiaeth o lwybrau teithio llesol yn ardal Rhisga ar gyfer cerddwyr a beicwyr, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru sy'n annog cerdded a beicio fel dull teithio dewisol ar gyfer teithiau o fewn pellteroedd byr.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn bwrw ymlaen â dyluniad manwl llwybr INMC 192 yn Rhisga sydd â'r bwriad o fod yn llwybr cerdded a beicio, tua 1.25km o hyd.
Mae’r cynigion yn edrych ar amrywiaeth o wahanol ddulliau i ailgynllunio’r ffyrdd i’w gwneud yn haws cerdded a beicio o amgylch yr ardal i fynd i Ysgol Gynradd Rhisga, siopau manwerthu a bwyd, gorsaf drenau Rhisga a Phont-y-meistr ac Ysgol Fabanod Tŷ Isaf.
Mae’r gwelliannau hyn yn ystyried newidiadau ar raddfa fach a fyddai’n gwneud teithio’n haws i gerddwyr a beicwyr, megis lledu llwybrau cerdded a chynnwys llwybrau cyd-ddefnyddio.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Yn y broses ddylunio, hoffen ni gynnwys cymunedau lleol, rhanddeiliaid, defnyddwyr teithio llesol presennol a defnyddwyr teithio posibl. Mae hyn yn sicrhau bod anghenion a gwybodaeth defnyddwyr lleol yn cael eu casglu wrth ddatblygu'r cynigion dylunio.
Mae'n bwysig nodi holl fanteision ac anfanteision yr opsiynau dylunio a deall yn well anghenion a dyheadau'r gymuned leol i wella eu dewisiadau teithio cynaliadwy. Y nod yw gwella’r ardal ar gyfer y gymuned leol, a hoffen ni gael eich barn ar yr opsiynau ac a oes gennych chi unrhyw faterion y mae angen i ni eu hystyried, neu opsiynau gwell yr hoffech chi eu cynnig. Byddwn ni'n defnyddio eich adborth i ddatblygu ein dyluniad ymhellach.
Disgrifiad o'r llwybr
Mae dau opsiwn wedi'u nodi o fewn y llwybr. Mae Opsiwn 1 yn mynd trwy Barc Tredegar ac mae Opsiwn 2 yn defnyddio Park Road. Mae’r llwybr yn dechrau ar Dan y Graig Road y tu allan i Ysgol Gynradd Rhisga i’r gorllewin, gan groesi’r B4591, yn mynd o amgylch/neu drwy Barc Tredegar i deithio i lawr Park Road. Mae’r llwybr yn dilyn y llwybr presennol gerllaw maes parcio’r orsaf drenau sy’n cysylltu ag Ysgol Fabanod Tŷ Isaf ac yn cysylltu B4591 Heol Casnewydd drwy ledu’r llwybr presennol drwy’r clwb rygbi i gyfleuster wedi'i rannu sy’n 3m o led. Rydyn ni’n rhagweld y bydd y llwybr o fudd i ddefnyddwyr yn yr ardal ac o'i chwmpas.
Datblygu opsiynau teithio llesol
Rydyn ni wedi edrych ar nifer o syniadau dylunio a fyddai’n helpu i wneud y llwybr yn well i gerddwyr a beicwyr, ac o’r rhain, rydyn ni wedi llunio dau opsiwn ar gyfer llwybr INMC 192 i ysgogi trafodaeth.
Ein nod yw sefydlu dewis dyluniad a symud hyn ymlaen i ystyriaeth fanylach fel y gallwn ni lunio achos dros gyllid.
Bydd y dewis dyluniad yn darparu llwybr di-dor sy’n gallu cynnwys elfennau o’r naill opsiwn arfaethedig neu’r llall, a fydd yn diwallu anghenion y gymuned leol.
Mae'r Opsiynau 1 a 2 yn debyg iawn ac mae ganddyn nhw'r un pwynt dechrau a gorffen, a'r unig wahaniaeth yw y bydd defnyddwyr teithio llesol naill ai'n mynd drwy Barc Tredegar neu o'i amgylch. Mae amrywiaeth o welliannau wedi’u cynnig ar gyfer y llwybr er mwyn gwella ansawdd teithio i ddefnyddwyr teithio llesol. Lle bo modd ail-neilltuo gofod ffordd yn rhesymol, mae llwybrau cyd-ddefnyddio a llwybrau cerdded lletach wedi cael eu hystyried. O gymharu â hyn, rydyn ni wedi ystyried hefyd llwybrau cerdded cyd-ddefnyddio, lonydd beicio ar y ffordd gyda llai o wahanu neu lonydd beicio cynghorol yn unig. Mewn rhai achosion lle mae llif traffig a chyflymder cerbydau yn ddigon isel, mae cynnig statws Stryd Dawel sy'n gofyn am ychydig iawn o ymyrraeth.
Rhwng Ysgol Gynradd Rhisga a Pharc Tredegar, y bwriad yw lledu'r llwybr cerdded i 2.625m ar gyfer llwybr cerdded a beicio cyd-ddefnyddio, gyda chroesfan twcan yn Dan y Graig Road/Tredegar Street. Mae cynnig y bydd y llwybr cyd-ddefnyddio yn mynd ar hyd Park Road gyda chroesfan syml heb ei rheoli mewn pedwar lleoliad ar hyd y ffordd. Bydd parcio ar hyd Park Road yn cael ei gadw.
Mae Opsiwn 2 yn mynd trwy Barc Tredegar ac yn mynd i Park Road lle mae'n uno ag Opsiwn 1. Mae gweddill Opsiynau 1 a 2 yr un fath nes bod y llwybr yn cyrraedd yr orsaf drenau.
Ffyrdd o fynegi eich barn
I wneud sylwadau ar y cynigion, cwblhewch yr arolwg ar-lein yma (Dolen allanol). Gallwch chi hefyd argraffu copi o'r arolwg i'w lenwi.
Mae copi o’r cynlluniau a’r arolwg ar gael yn Llyfrgell Rhisga ac mae modd dychwelyd unrhyw arolygon papur wedi’u llenwi i’ch llyfrgell chi neu yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Is-adran Isadeiledd (Gweinyddiaeth Peirianneg), Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG
Canlyniadau disgwyliedig
Bydd adborth yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses ddylunio i ddatblygu'r dyluniadau manwl a fydd yn destun ymgynghoriad ar wahân.
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad ar gael o fewn pythefnos i ddyddiad olaf yr ymgynghoriad.