Llwybr Teithio Llesol: Ystrad
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben
Ynglŷn a'r Prosiect
Fel rhan o gyflawni Map Rhwydwaith Teithio Llesol, sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor, mae’r prosiect hwn yn edrych ar sut mae modd datblygu a darparu Cyswllt Teithio Llesol gwell yn Ystrad Mynach ar gyfer cerddwyr a beicwyr, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru sy'n annog cerdded a beicio fel dull teithio dewisol ar gyfer teithiau o fewn pellteroedd byr.
Mae’r llwybrau cerdded a beicio arfaethedig eisoes wedi’u cynnwys ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol MapDataCymru ac yn ceisio sefydlu rhwydwaith teithio llesol cychwynnol ar gyfer yr ardal, gan ffurfio rhan o uchelgais 15 mlynedd ehangach i ddarparu rhwydwaith teithio llesol helaeth ledled y Fwrdeistref Sirol.
Rydyn ni'n edrych ar amrywiaeth o wahanol ffyrdd i ailgynllunio’r ffyrdd i’w gwneud hi'n haws cerdded a beicio rhwng cylchfan yr A472/Caerphilly Road a chyffordd Heol y Twyn/Caerphilly Road. Bydd yr astudiaeth yn ffurfio rhan o uchelgais ehangach i wella cysylltedd rhwng lleoliadau allweddol megis Ysbyty Ystrad Fawr, Parc Ystrad Mynach, Coleg y Cymoedd, y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod, Gorsaf Drenau Ystrad Mynach, canol y dref a’r ardal ddiwydiannol ger Parc Busnes Dyffryn. Bydd y cyflwyniad graddol hwn yn ffurfio rhan o rwydwaith cyffredinol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu gwelliannau teithio llesol rhwng Ystrad Mynach, Llanbradach, Caerffili a Bedwas.
Mae’r gwelliannau hyn yn ystyried newidiadau a fyddai’n gwneud teithio’n haws i gerddwyr a beicwyr megis cyfleusterau croesi newydd, cyrbiau isel gwell a phalmentydd botymog, croesfannau parhaus ar draws ffyrdd ymyl ac ati.
Mae'n bwysig ein bod ni'n nodi holl fanteision ac anfanteision yr opsiynau dylunio a deall yn well anghenion a dyheadau'r gymuned leol i wella eu hansawdd bywyd. Yn y pen draw, mae’r galw am ofod ar y ffyrdd yn gymhleth ac mae’r broses o ddatblygu cysylltiadau teithio llesol yn broses sy’n esblygu. Bydd y llwybr a’r cysylltiadau sy'n cael eu datblygu yn ddiweddarach yn amodol ar y broses arfarnu sydd wedi'i chytuno arni gan Lywodraeth Cymru.
Mae ein gwaith ni'n symud ymlaen tuag at gam dylunio manwl, er nad oes unrhyw benderfyniadau cadarn wedi'u gwneud ar y dewis o opsiynau ar hyn o bryd. Rydyn ni'n awyddus i glywed pa agweddau rydych chi'n eu hoffi, efallai y bydd gennych chi bryderon, neu unrhyw opsiynau gwell yr hoffech chi eu cynnig.
Byddwn ni'n defnyddio eich adborth chi i ddatblygu ein dyluniadau ymhellach a bydd cyfleoedd eraill i chi wneud sylwadau yn ddiweddarach.
Sylwch, pan fyddwn ni'n defnyddio’r term ‘cerddwr’ neu ‘gerdded’, rydyn ni'n cyfeirio nid yn unig at y rhai sy’n teithio ar droed ond hefyd defnyddwyr cadeiriau olwyn a chymhorthion symud eraill.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Er mwyn cynnwys cymunedau lleol, rhanddeiliaid, a defnyddwyr teithio llesol presennol a defnyddwyr teithio llesol posibl. Mae hyn yn sicrhau bod anghenion a gwybodaeth defnyddwyr lleol yn cael eu nodi wrth ddatblygu'r cynigion dylunio.
Beth yw teithio llesol?
Mae teithio llesol yn golygu cymryd lle siwrneiau mewn car gyda cherdded, defnyddio cadair olwyn a beicio ar gyfer teithiau ymarferol, pob dydd fel siopa, cymudo, a chael mynediad at wasanaethau fel iechyd ac addysg. Mae teithio llesol yn gallu helpu lleihau allyriadau carbon a llygredd aer drwy leihau’r defnydd o geir, ac mae hefyd yn gallu helpu’n ariannol drwy leihau’r ddibyniaeth ar geir ar gyfer teithiau byrrach.
Mae gan bob Cyngor yng Nghymru ddyletswydd ddeddfwriaethol i greu mapiau sy’n dangos eu llwybrau teithio llesol presennol a’u llwybrau arfaethedig. Mae llwybrau ond yn cyfrif fel llwybrau teithio llesol os ydyn nhw'n bodloni safonau gofynnol penodol o ran diogelwch, uniongyrchedd, a meini prawf eraill sy’n sicrhau bod ansawdd uchel yn cael ei ddyheu amdano a’i gynnal.
Ardal yr Astudiaeth
Mae'r prosiect hwn yn edrych ar y rhan rhwng cylchfan yr A472/Caerphilly Road a chyffordd Heol y Twyn/Caerphilly Road yn Ystrad Mynach. Wrth i'r astudiaeth ddatblygu, bydd cysylltiadau ehangach rhwng Ystrad Mynach ac aneddiadau fel Llanbradach, Caerffili a Bedwas yn cael eu harchwilio.
Mae cyfeirnod ardal yr astudiaeth ar MapDataCymru yn cynnwys Llwybrau INMC320, INMC31 ac INMC319. Mae’r llwybrau’n cydweddu â sawl llwybr arall i'r dyfodol sydd wedi'u nodi ar haen teithio llesol cymeradwy'r Cyngor, gan gynnwys INMC328-SC, INMC327, INMC21 ac INMC330. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar MapDataCymru.
Arfarnu Opsiynau
Mae'r wybodaeth isod yn rhoi crynodeb o'r broses arfarnu opsiynau gychwynnol a gafodd ei chynnal ar hyd ardal yr astudiaeth.
Mae’r manylion yn datblygu ac yn amodol ar arfarnu manwl pellach:
- Tair croesfan ar gylchfan yr A472 (tua'r dwyrain i gyfeiriad Maes-y-cwmwr, tua'r de ar hyd Caerphilly Road a thua'r gorllewin i gyfeiriad Gorsaf Drenau Ystrad Mynach) – (Gwelliannau i fath/trefniadau’r groesfan yn dibynnu ar adolygiad bellach)
- Llwybr cyd-ddefnyddio parhaus (lleiafswm lled o 3.0 metr) ar hyd Caerphilly Road
- Uwchraddio'r groesfan sebra bresennol ar hyd Caerphilly Road i groesfan gyfochrog
- Croesfan i gerddwyr er mwyn cael mynediad i Ynys-glyd Street
- Uwchraddio'r groesfan bresennol ar gyffordd Caerphilly Road/Heol y Twyn i groesfan twcan
- Darparu croesfan newydd i gerddwyr sy'n cael ei rheoli gan signalau ar gyffordd Caerphilly Road/Heol y Twyn
Bydd canfyddiadau'r broses arfarnu yn helpu llywio'r gwaith o ddylunio'r llwybr hwn yn y dyfodol. Bydd gwaith manwl pellach yn cael ei wneud gan AtkinsRéalis i archwilio gwelliannau i deithio llesol yn ardal yr astudiaeth a chysylltiadau ehangach yn Ystrad Mynach ar ôl i’r ymgysylltu hwn ddod i ben.
Ffyrdd o fynegi eich barn
I wneud sylwadau ar y cynigion, cwblhewch yr arolwg ar-lein yma. Gallwch chi hefyd argraffu copi o'r arolwg i'w lenwi.
Mae copi o’r cynlluniau a’r arolwg ar gael yn Llyfrgell Ystrad Mynach (Y Stryd Fawr, Ystrad Mynach CF82 7BB) ac mae modd dychwelyd unrhyw arolygon papur sydd wedi’u llenwi i’ch llyfrgell chi neu yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Adran Isadeiledd (Gweinyddiaeth Peirianneg), Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.
Canlyniadau Disgwyliedig
Bydd adborth yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses ddylunio i ddatblygu'r dyluniadau manwl a fydd yn destun ymgynghoriad ar wahân.
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad ar gael o fewn pythefnos i ddyddiad cau'r ymgynghoriad.