Mabwysiadu Priffordd – Ffordd Ddynesu Sarn Place, Rhisga
Trosolwg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig mabwysiadu'r darn o ffordd a elwir yn Ffordd Ddynesu Sarn Place, Rhisga.

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI
DEDDF PRIFFYRDD 1980 – ADRAN 228
GAN NAD YW'R stryd a ganlyn, fel y'i dangosir ar y cynlluniau a adneuir yn swyddfeydd y sawl sydd wedi llofnodi isod, ar ddyddiad yr Hysbysiad hwn, yn briffordd sy'n cael ei chynnal ar gost y cyhoedd ond yn stryd o fewn ystyr Deddf Priffyrdd 1980, ac wedi cael ei chyweirio at fy moddhad, sef:-
FFORDD DDYNESU SARN PLACE, RHISGA - hyd y lôn a elwir yn FFORDD DDYNESU SARN PLACE, Rhisga sydd tua 188 metr o hyd ac yn rhedeg o’r de-ddwyrain i’r gogledd-orllewin wrth ochr 1 Sarn Place, Risca.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan yr adran Gweithrediadau Priffyrdd, drwy ffonio 01495 235718 neu e-bostio BARRYGJ@CAERFFILI.GOV.UK
Dylid gwneud unrhyw wrthwynebiad i'r hysbysiad arfaethedig, ynghyd â'r rheswm dros wneud hynny, drwy e-bostio BARRYGJ@CAERFFILI.GOV.UK erbyn
YN AWR mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel yr awdurdod gwaith stryd ar gyfer yr ardal uchod, drwy hyn, yn datgan y bydd y stryd uchod yn briffordd sy'n cael ei chynnal ar gost y cyhoedd ymhen cyfnod o un mis o ddyddiad arddangos yr Hysbysiad hwn am y tro cyntaf, sef un mis o 3/7/26
AR YR AMOD na fydd y stryd yn dod yn briffordd o'r fath os yw perchennog y stryd neu, os oes mwy nag un, y mwyafrif o berchnogion, o fewn y cyfnod uchod o un mis, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Bennaeth Isadeiledd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn y cyfeiriad isod, yn gwrthwynebu hynny.
DRWY ORCHYMYN CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI
Llofnod:
Pennaeth Isadeiledd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Adran Isadeiledd
Swyddfeydd y Cyngor
Tŷ Tredomen
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7WF
Ymholiadau
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan yr adran Gweithrediadau Priffyrdd drwy ffonio 01495 235718 neu e-bostio BarrygJ@caerffili.gov.uk.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Dylid gwneud unrhyw wrthwynebiad i'r hysbysiad arfaethedig, ynghyd â'r rheswm dros wneud hynny, drwy e-bostio BarrygJ@caerffili.gov.uk erbyn dydd Gwener 3/7/26.

