Mabwysiadu Priffordd – Mount Plesant South UL, Rhisga
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau

DEDDF PRIFFYRDD 1980 – ADRAN 228
GAN NAD YW'R stryd a ganlyn, fel y'i dangosir ar y cynlluniau a adneuir yn swyddfeydd y sawl sydd wedi arwyddo isod, ar ddyddiad yr Hysbysiad hwn, yn briffordd sy'n cael ei chynnal ar gost y cyhoedd ond yn stryd o fewn ystyr Deddf Priffyrdd 1980, ac wedi cael ei chyweirio at fy moddhad, sef:-
MOUNT PLEASANT SOUTH UL, RHISGA - hyd y lôn a elwir MOUNT PLEASANT SOUTH UL, RHISGA sydd tua 132 metr o hyd yn rhedeg o’r Dwyrain i’r Gorllewin ac o’r Gogledd wrth ochr 32 Mount Pleasant Road gellir gweld copi o’r darluniau yma:
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan yr adran Gweithrediadau Priffyrdd, drwy ffonio 01495 235718 neu e-bostio BARRYGJ@CAERFFILI.GOV.UK
Dylid gwneud unrhyw wrthwynebiad i'r hysbysiad arfaethedig, ynghyd â'r rheswm dros wneud hynny, drwy e-bostio BARRYGJ@CAERFFILI.GOV.UK erbyn dydd Gwener 11 Ebrill 2025.
YN AWR mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel yr awdurdod gwaith stryd ar gyfer yr ardal uchod, drwy hyn, yn datgan y bydd y stryd uchod yn briffordd sy'n cael ei chynnal ar gost y cyhoedd ymhen cyfnod o un mis o ddyddiad arddangos yr Hysbysiad hwn am y tro cyntaf, sef un mis o Dydd Llun 17 Mawrth 2025.
AR YR AMOD na fydd y stryd yn dod yn briffordd o'r fath os yw perchennog y stryd neu, os oes mwy nag un, y mwyafrif o berchnogion, o fewn y cyfnod uchod o un mis, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Bennaeth Isadeiledd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn y cyfeiriad isod, yn gwrthwynebu hynny.
DRWY ORCHYMYN CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI
Llofnod:
Pennaeth Isadeiledd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Adran Isadeiledd
Swyddfeydd y Cyngor
Tŷ Tredomen
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7WF
Canlyniadau
Cafodd Lôn Drefol Mount Pleasant, Rhisga, ei gyflawni’n ffurfiol ac yn llwyddiannus a'i fabwysiadu'n swyddogol ar 11.04.25 ac mae bellach yn cael ei arolygu o ran diogelwch a gwaith cynnal a chadw ar yr un lefel â'n portffolio priffyrdd mabwysiedig sy'n weddill.
Mae'r cynllun wedi'i gyflawni o dan gynllun peilot ffyrdd heb eu mabwysiadu Llywodraeth Cymru, lle mae cyllid yn cael ei gynnig drwy'r Grŵp Gwasanaethau Priffyrdd yn y gobaith o sicrhau'r cymorth ariannol a fydd yn caniatáu i'r Gwasanaeth Priffyrdd ddylunio ac adeiladu'r rhwydwaith sy'n cael ei hyrwyddo yn llwyddiannus, i'w gynnwys yn ein portffolio asedau priffyrdd mabwysiedig.