Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio

Rhannu Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio ar Facebook Rhannu Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio Ar Twitter Rhannu Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio Ar LinkedIn E-bost Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

solar a gwynt

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau i ddweud wrthym ni am eich pryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd, eich gwybodaeth am atebion ynni gwyrdd a sut rydych chi'n teimlo y gallwn ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) weithio tuag at leihau ein heffaith ar newid yn yr hinsawdd, ochr yn ochr â busnesau a’n cymunedau.

Pam rydym yn ymgynghori?

Bydd cael dealltwriaeth o safbwyntiau a lefelau ymwybyddiaeth ymhlith trigolion a busnesau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ein helpu ni i wneud cynlluniau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chael mynediad at ffynonellau cyllid.

Ffyrdd o roi eich barn

Os hoffech chi rannu eich barn, llenwch yr arolwg neu alw heibio a chael sgwrs gyda ni yn:

Tesco, Risga ar dydd Gwener 9 Mehefin rhwng 12 a 2pm.

Morrisons, Caerffili ar dydd Mawrth 13 Mehefin rhwng 11am a 1pm.

Ymholiadau

Dylai trigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, cyfleusterau cyfieithu neu sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau gysylltu â’r tîm drwy anfon e-bost at timcaerffili@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 07740756603.