Pennu cyllideb y Cyngor 2025-2026
Pam rydym yn ymgynghori?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi ei gynigion cyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26 fel rhan o gynlluniau parhaus i lenwi bwlch o £47 miliwn yn ei gyllid dros y 3 blynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, "Mae'r cyngor yn parhau i archwilio ffyrdd o gyflawni arbedion i lenwi bwlch digynsail yn ein cyllideb. Mae nifer o gynigion arbedion allweddol eisoes wedi'u datblygu yn 2024 ac rwyf am annog y gymuned i barhau i ddweud eu dweud a helpu i lunio penderfyniadau pellach dros y misoedd nesaf."
"Er bod y pwysau cyllidebol hyn yn sylweddol, rydyn ni mewn sefyllfa gref i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau oherwydd ein rheolaeth ariannol gadarn dros y blynyddoedd diwethaf," ychwanegodd.
Mae rhai o’r cynigion allweddol yn adroddiad y gyllideb yn cynnwys:
- Cynnydd 7.9% arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2025/26
- £18.3 miliwn o arbedion parhaol
- £3.1 miliwn o arbedion dros dro
- Defnyddio £4.3 miliwn o gronfeydd wrth gefn y Cyngor tuag at arbedion - Cyswllt: Eich Cyngor - Eglurhad .
Gallwch hefyd ddarganfod mwy am gyllideb y cyngor yma.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Os hoffech rannu eich barn, cwblhewch yr arolwg ar-lein neu argraffu’r arolwg a'i ddychwelyd yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tîm Ymgysylltu, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.
Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request.
Bydd nifer o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae croeso i breswylwyr alw i mewn am sgwrs gydag aelod o dîm ymgysylltu’r Cyngor yn y lleoliadau canlynol:
Dyddiad: | Lleoliad: | Amser: |
Dydd Llun 27 Ionawr | Neuadd Eglwys y Santes Gwladys, Church Place, Bargod, CF81 8RP | 4:30pm-6:30pm |
Dydd Mercher 29 Ionawr | Neuadd Eglwys y Santes Farged, 2 Malvern Terrace, Risca, Newport NP11 6AU | 10:00am-12:00pm |
Dydd Iau 30 Ionawr | *** Newid i'r lleoliad *** Rhymney Library Hub, Victoria Rd, Rhymney, Tredegar NP22 5NU | 3.00pm-5.00pm |
Dydd Llun 3 Chwefror | Siloh, Oakfield Street, Ystrad Mynach, CF82 7AF | 4:00pm-6:00pm |
Dydd Mercher 5 Chwefror | Canolfan Gymunedol y Twyn, Sgwâr y Twyn, 1 Y Twyn, Caerffili CF83 1JL | 11:00am-1:00pm |
Dydd Iau 6 Chwefror | Canolfan Gymunedol Nelson, 13 Bryncelyn, Nelson, Treharris CF46 6HL | 10:00am-12:00pm |
Dydd Llun 10 Chwefror | Libanus Lifestyle, Coed Duon, Caerffili NP12 1EQ | 10:00am-12:00pm |
Dydd Mercher 12 Chwefror | Tabernacl Trecelyn, Y Stryd Fawr, Trecelyn, Casnewydd NP11 4FH | 4:00pm-6:00pm |
Yn ogystal, mae dwy sesiwn galw heibio ar-lein wedi'u trefnu:
- Dydd Mawrth 28 Ionawr 11am-1pm
- Dydd Mercher 5 Chwefror 4-6pm
Mae gofyn i drigolion sy'n dymuno mynychu un o'r sesiynau ar-lein e-bostio YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk gyda'r dyddiad sydd well gennych chi, a bydd dolen i fynychu'r sesiwn ar-lein yn cael ei darparu.
Mae gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, gysylltu â’r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864380.
Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau
Cafodd canlyniadau'r ymgynghoriad eu bwydo i mewn i'r adroddiad cyllideb drafft terfynol i'w ystyried gan y Cabinet a'r Cyngor Llawn ddiwedd mis Chwefror.