Pennu cyllideb y Cyngor 2026/2027

Rhannu Pennu cyllideb y Cyngor 2026/2027 ar Facebook Rhannu Pennu cyllideb y Cyngor 2026/2027 Ar Twitter Rhannu Pennu cyllideb y Cyngor 2026/2027 Ar LinkedIn E-bost Pennu cyllideb y Cyngor 2026/2027 dolen

Pam rydym yn ymgynghori?

Bob blwyddyn, mae gofyn i'r Cyngor gytuno ar gyfradd Treth y Cyngor a phennu cyllideb gytbwys.

Ar 12 Ionawr 2026, cytunodd Cabinet y Cyngor y byddai cynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27 yn destun cyfnod ymgynghori cyn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor ar 24 Chwefror 2026.

Dyma nodweddion allweddol cynigion y gyllideb ar gyfer 2026/27:

• £9.6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer maes gofal cymdeithasol i oedolion a phlant

(Gan gynnwys £0.690 miliwn yn ychwanegol i ddarparu taliadau ffioedd i Ofalwyr Maeth sy'n Berthnasau i'w halinio nhw â Gofalwyr Maeth eraill yng Nghaerffili i helpu cadw plant yn ddiogel, sicrhau eu bod nhw'n cael gofal a'u bod nhw mewn cartref teuluol.)

• £3.7 miliwn yn ychwanegol i ysgolion

• Cynlluniau i gynyddu cyllideb glanhau a gwyrddu y Cyngor 50%.

• Arbedion parhaol ac arbedion dros dro, gwerth cyfanswm o £12.4 miliwn, gan gynnwys arbedion o £2.089 miliwn pan fo penderfyniadau wedi'u gwneud a tharged arbedion o £5.6 miliwn fel rhan o raglen drawsnewid y Cyngor.

• Cynyddu'r holl ffioedd a thaliadau 3%, gwerth cyfanswm o £0.377 miliwn.

• Treth y Cyngor i gynyddu 6.25%. Cynyddu praesept Band D o £1,560.63 i £1,658.17 (sef cynnydd o £1.88 yr wythnos).

Nid yw cyllideb 2026/27 yn dibynnu ar ddefnydd untro o gronfeydd wrth gefn.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os hoffech rannu eich barn, llenwch yr arolwg ar-lein neu argraffu’r arolwg a'i ddychwelyd yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tîm Ymgysylltu, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.

Mae'r arolwg hwn ar gael yn Gymraeg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request.

Bydd nifer o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae croeso i breswylwyr alw i mewn am sgwrs gydag aelod o dîm ymgysylltu’r Cyngor yn y lleoliadau canlynol:

Dyddiad:

Lleoliad:

Amser:

Dydd Llun 19 Ionawr

Llyfrgell Ystrad Mynach, Y Stryd Fawr, Ystrad Mynach CF82 7BB

10:00am-12:00pm

Dydd Mawrth 20 Ionawr

Llyfrgell Bargod, Capel Hanbury, Hanbury Road, Bargod CF81 8QR

4:00pm-6:00pm

Dydd Mercher 21 Ionawr

Llyfrgell Rhisga, Uned B, Palas Rhisga, 75 Tredegar Street, Rhisga NP11 6BW

4:00pm-6:00pm

Dydd Iau 22 Ionawr

Llyfrgell Trecelyn, Neuadd Goffa Trecelyn, Y Stryd Fawr, Trecelyn NP11 4FH

10:00am-12:00pm

Dydd Sadwrn 24 Ionawr

Llyfrgell Caerffili, 2 Y Twyn, Caerffili CF83 1JL

10:30am-12:30pm

Dydd Llun 26 Ionawr

Llyfrgell a Chanolfan Ddysgu Nelson, Commercial Street, Nelson CF46 6NF

2:00pm-4:00pm

Dydd Mawrth 27 Ionawr

Llyfrgell Coed Duon, 192 Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1AJ

10:00am-12:00pm

Dydd Iau 29 Ionawr

Hwb Llyfrgell Rhymni a Chanolfan Dysgu Cymunedol Idris Davies, Victoria Road, Rhymni NP22 5NU

11:00am-1:00pm

Yn ogystal, mae dwy sesiwn galw heibio ar-lein wedi'u trefnu:

  • Dydd Gwener 23 Ionawr, 10am-12pm
  • Dydd Mercher 28 Ionawr, 6pm-7.30pm

Mae gofyn i drigolion sy'n dymuno mynychu un o'r sesiynau ar-lein e-bostio YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk gyda'r dyddiad sydd well gennych chi, a bydd dolen i fynychu'r sesiwn ar-lein yn cael ei darparu.

Mae gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, gysylltu â’r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864380.

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu bwydo i'r adroddiad ar y gyllideb ddrafft terfynol i'w ystyried gan y Cabinet a'r Cyngor Llawn ar 24 Chwefror 2026.

Diweddaru: 15 Jan 2026, 12:03 PM