Polisi Dyrannu Cyffredin

Rhannu Polisi Dyrannu Cyffredin ar Facebook Rhannu Polisi Dyrannu Cyffredin Ar Twitter Rhannu Polisi Dyrannu Cyffredin Ar LinkedIn E-bost Polisi Dyrannu Cyffredin dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Gan weithio'n agos gyda'i bartneriaid cymdeithasau tai, mae'r Cyngor wedi cwblhau adolygiad o'r Polisi Dyrannu Cyffredin yn ddiweddar. O ganlyniad i ganfyddiadau'r adolygiad, mae'r Cyngor bellach yn cynnig cyflwyno cyfres o ddiwygiadau a fydd yn ei helpu i fynd i'r afael â'r pwysau a grëwyd gan yr argyfwng tai a gwella'r broses ailgartrefu drwy fabwysiadu dull gosod seiliedig ar ddewis.

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Mewn ymateb i niferoedd cynyddol o bobl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref i'r Cyngor dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a'r pwysau o ganlyniad ar ddarparu llety dros dro addas i gyflawni ei ddyletswyddau digartrefedd, penderfynodd y Cyngor gynnal adolygiad ar raddfa fawr o'r Polisi Dyrannu Cyffredin.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Dweud eich dweud drwy gwblhau'r arolwg ar-lein.

Os na allwch gwblhau'r arolwg ar-lein ac yr hoffech gael copi papur, cysylltwch â Mark Jennings drwy e-bost: StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk neu ffoniwch: 01443 863121. Os hoffech ragor o wybodaeth am y newidiadau i'r polisi defnyddiwch yr un manylion cyswllt.

Nid yw'r Cyngor yn gallu ymateb yn uniongyrchol i unrhyw faterion personol sydd wedi'u cynnwys yn yr arolwg ar-lein. Os hoffech ddiweddaru eich cais presennol am dŷ, ewch i: https://www.homesearchcaerphilly.org/HouseholdLogin Os oes angen i chi gysylltu â thîm y Gofrestr Tai Cyffredin, ffoniwch: 01443 873521 neu e-bostiwch: chr@caerphilly.gov.uk Ar gyfer ymholiadau digartrefedd ffoniwch: 01443 873552.

Canlyniadau disgwyliedig

Pan fydd yr ymarfer ymgynghori wedi’i gwblhau bydd barn pobl yn cael ei hystyried a bydd y polisi’n cael ei gwblhau. Bydd y polisi wedyn yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo ym mis Mehefin 2025. Ar ôl ei gymeradwyo, bydd y polisi newydd yn cael ei gyflwyno.