Polisi Rhent Canolradd
Mae'r Cyngor yn ceisio barn trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyflwyno Polisi Rhent Canolradd newydd.
Fel rhan o'i agenda tai a llunio lleoedd strategol, dau nod allweddol y Cyngor yw creu cymunedau cymysg a chynaliadwy lle mae pobl eisiau byw a hybu iechyd a lles. Mae'r Cyngor yn ceisio cyflawni'r nodau hyn trwy ddarparu amrywiaeth o dai fforddiadwy o ansawdd da, p'un a yw hynny'n cael ei ddarparu trwy'r system gynllunio, mewn partneriaeth â chymdeithasau tai lleol neu drwy ei adnoddau ei hun.
Mae gwybodaeth wedi'i darparu o asesiadau o'r farchnad dai leol wedi'u cynnal gan y Cyngor a data wedi'u casglu trwy'r Gofrestr Tai Cyffredin yn dangos galw uchel ledled y Fwrdeistref Sirol am amrywiaeth o dai fforddiadwy o ansawdd da i'w rhentu, gan gynnwys tai rhent cymdeithasol a thai rhent canolradd.
Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y gall rhentu yn y sector preifat fod yn anfforddiadwy i rai pobl:
- Mae cyfartaledd rhenti misol y sector preifat wedi codi 146% rhwng mis Awst 2015 a mis Awst 2025; ac
- Mae rhenti preifat wedi cynyddu i £691 y mis (Awst 2025), sef cynnydd o 7.3% flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Nod cyffredinol y polisi yw lleihau anghenion tai yn y Fwrdeistref Sirol trwy ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da i'w rhentu.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Mae eich barn yn bwysig: Mae gofyn am adborth yn rhoi cyfle i drigolion a rhanddeiliaid eraill rannu eu barn cyn i'r polisi gael ei gwblhau. Mae'r Cyngor yn ceisio barn ar y polisi drafft a'r asesiad effaith integredig. Rydyn ni am sicrhau bod y polisi yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau go iawn, a bod unrhyw oblygiadau posibl o gyflwyno'r polisi hwn yn cael eu nodi a'u hasesu cyn i'r polisi drafft gael ei gwblhau.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Mae sawl ffordd i chi gymryd rhan:
• Arolwg ar-lein
Cwblhewch yr arolwg ar-lein. Mae’n cynnwys cyfuniad o gwestiynau aml-ddewis a lle i ychwanegu eich sylwadau eich hun. Mae’r arolwg yn cymryd tua 5–10 munud i’w gwblhau.
• Copïau papur
Bydd copïau papur o'r arolwg ar gael ar gais drwy e-bostio stratanddevelop@caerphilly.gov.uk.gov.uk neu drwy ffonio 01443 863121
• Cymorth i gymryd rhan
Os oes angen help arnoch i gwblhau’r arolwg neu os ydych chi’n ei angen mewn fformat arall, mae cymorth ar gael. Cysylltwch ag Mark Jennings gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod, drwy e-bostio strategydevelopment@caerphilly.gov.uk neu drwy ffonio 01443 863121
This survey is available in English. Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg.
Dylai trigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, cyfleusterau cyfieithu neu sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau gysylltu â’r tîm drwy anfon e-bost at stratanddevelop@caerphilly.gov.uk neu drwy ffonio 01443 863121.
Canlyniadau disgwyliedig
Creu polisi sy'n helpu'r Cyngor i ddiwallu anghenion tai y bobl hynny nad ydyn nhw, ar hyn o bryd, yn gallu fforddio bod yn berchen ar eu cartref eu hunain ond sy'n gallu fforddio talu mwy na rhent cymdeithasol.