Pryderon am lifogydd yn Rhisga: Ymgynghoriad cymunedol
Rhannu Pryderon am lifogydd yn Rhisga: Ymgynghoriad cymunedol ar FacebookRhannu Pryderon am lifogydd yn Rhisga: Ymgynghoriad cymunedol Ar TwitterRhannu Pryderon am lifogydd yn Rhisga: Ymgynghoriad cymunedol Ar LinkedInE-bost Pryderon am lifogydd yn Rhisga: Ymgynghoriad cymunedol dolen
Mae'rymgynghoriadwedidodi ben
Trosolwg
Yn unol â'r Cynllun Gweithredu sydd wedi’i nodi yn Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd (SLRhPLl) Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni’n cynnal ymchwiliadau i ardaloedd sydd â risg uchel o lifogydd a'r rhai sydd wedi profi llifogydd sylweddol. Gan fod Rhisga yn ardal o'r fath, rydyn ni’n edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd yma, ac yn ceisio eich barn chi ar ddigwyddiadau blaenorol o lifogydd.
Pam rydynni’nynymgynghori
Drwy’r ymgynghoriad hwn, rydyn ni’n ceisio casglu barn trigolion a rhanddeiliaid ynghylch problemau a phryderon o ran llifogydd yn ardal Rhisga. Bydd hyn yn ein helpu ni i nodi heriau ac ardaloedd allweddol sy’n profi llifogydd, a fydd yn llywio ymchwiliadau a gwaith dichonoldeb yn y dyfodol.
Mae copi o'r arolwg, a’r wybodaeth ategol, hefyd ar gael yn Llyfrgell Rhisga a Siop Goffi ‘Snug’.
Mae'r arolwg hwn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.
Rydyn ni hefyd yn cynnal sesiwn galw heibio ar yr 11 Tachwedd ar yr amseroedd a'r lleoliadau isod:
Llyfrgell Rhisga: 9.30am – 1pm / 2pm – 5pm
Siop Goffi ‘Snug’, Rhisga: 5pm – 7pm
Ymholiadau
Gall unrhyw randdeiliad sydd am drafod yr ymgynghoriad hwn wneud hynny drwy gysylltu â draenio@caerffili.gov.uk neu dros y ffôn ar 01495235796 (Mr. Max Nebe) / 07701020205 (Mr. Mark Goodger)
Canlyniadau disgwyliedig
Mae eich llais yn bwysig. Bydd cael trigolion a rhanddeiliaid yn rhan o’r ymchwiliad yn ein helpu ni i ddeall eu blaenoriaethau a'u pryderon ynghylch llifogydd yn Rhisga. Bydd yr wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu yn ein helpu ni i nodi ardaloedd allweddol a sicrhau y gall cynlluniau yn y dyfodol ganolbwyntio ymdrechion tuag at y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan lifogydd.