Rhwystr newydd ar lwybr ceffylau (Man-moel)
Mae Cyngor Caerffili yn ceisio barn ar gynnig i osod giât mochyn hygyrch (gyda ffordd osgoi RADAR) a chamfa geffylau dros lwybr ceffylau cyhoeddus – ARGO/BR383/1 (Bedwellte gynt). Pwrpas y cynnig yw diogelu defnyddwyr y llwybr ceffylau, trwy atal mynediad gan gerbydau heb awdurdod wrth gynnal mynediad i gerddwyr, marchogion a beicwyr pedal dilys.
Yn y gorffennol, mae gatiau mochyn hygyrch a chamfeydd ceffylau cyfagos (a elwir hefyd yn gamfeydd) wedi’u defnyddio i atal neu leihau mynediad gan feiciau modur, beiciau cwad a cherbydau â phedwar olwyn megis ceir a faniau. Rydyn ni’n ceisio barn er mwyn helpu nodi unrhyw broblemau posibl y gallai gosod eitemau dodrefn o’r fath eu hachosi i ddefnyddwyr dilys y llwybr hwn, gan gynnwys cerddwyr, defnyddwyr cadeiriau gwthio a chymhorthion/cerbydau symudedd oddi ar y ffordd, defnyddwyr â cheffylau (naill ai marchogaeth neu’n cael eu harwain) a beicwyr pedal. Mae’r eitemau dodrefn hyn yn debygol o achosi problemau i rai, fodd bynnag, nod y cynnig yw diogelu defnyddwyr. Yn anffodus, mae’n bosibl y bydd y strwythurau canlyniadol yn gwneud defnyddio’r llwybr yn fwy anodd i leiafrif bach o ddefnyddwyr dilys, ond rydyn ni’n gobeithio bydd trefniant y strwythurau yn golygu y bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr dilys yn parhau i fod â mynediad.
Bydd unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu cynnwys mewn adroddiad i Bennaeth Diogelu'r Cyhoedd, Gwasanaethau Cymunedol a Hamdden i helpu penderfynu a yw'r math o rwystr yn briodol, ac os felly, a ddylai gael ei awdurdodi.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Mae tystiolaeth wedi cael ei darparu i ddangos bod Llwybr Ceffylau: ARGO/BR383/1 yn cael ei gamddefnyddio gan gerbydau modur. Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddiogelu defnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus, ac rydyn ni’n ystyried mesurau i atal mynediad gan gerbydau anawdurdodedig ac yn ceisio unrhyw sylwadau ar sut y gallai hyn effeithio ar ddefnyddwyr.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Llenwch yr arolwg ar-lein.
Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.
Yn ysgrifenedig i Hawliau Tramwy, CBS Caerffili, 1 St Gwladys Way, Bargod CF81 8AB
Canlyniadau disgwyliedig
Os nad oes unrhyw resymau dilys yn erbyn y cynnig, mae disgwyl y bydd giât mochyn hygyrch a chamfa geffylau gyfagos yn cael eu cymeradwyo a'u gosod ar ôl hynny.