Ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu'r cymhorthdal yn ôl oddi wrth Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a chau'r safle a chau Maenordy Llancaiach Fawr o ddiwedd mis Rhagfyr 2024

Rhannu Ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu'r cymhorthdal yn ôl oddi wrth Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a chau'r safle a chau Maenordy Llancaiach Fawr o ddiwedd mis Rhagfyr 2024 ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu'r cymhorthdal yn ôl oddi wrth Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a chau'r safle a chau Maenordy Llancaiach Fawr o ddiwedd mis Rhagfyr 2024 Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu'r cymhorthdal yn ôl oddi wrth Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a chau'r safle a chau Maenordy Llancaiach Fawr o ddiwedd mis Rhagfyr 2024 Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu'r cymhorthdal yn ôl oddi wrth Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a chau'r safle a chau Maenordy Llancaiach Fawr o ddiwedd mis Rhagfyr 2024 dolen

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel llawer o awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, yn wynebu her ariannol enfawr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn mantoli’r gyllideb.

Mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau arbedion o tua £45 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf ac mae hyn ar ben yr £20 miliwn o arbedion parhaol sydd eisoes wedi'u nodi.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Ni allwn ni barhau i redeg ein gwasanaethau yn y ffordd arferol. Mae angen i ni archwilio pob opsiwn ac ystyried ffyrdd o wneud pethau'n wahanol."

"Rydw i am fod yn onest â’r gymuned, oherwydd mae'n amlwg bod maint yr arbedion yn golygu bod angen i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf."

Maenordy Llancaiach Fawr

Mae’r Cyngor, yn cynnig cau Llancaiach Fawr ar ddiwedd mis Rhagfyr 2024 a bydd yn archwilio opsiynau i redeg y cyfleuster mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn darparu cymhorthdal o £485,000 y flwyddyn i redeg y lleoliad.

Byddai'r cynnig hwn i gau Lancaiach Fawr ar ddiwedd mis Rhagfyr 2024 yn caniatáu i'r Cyngor wneud arbedion llawn yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2025/26 wrth barhau i geisio sefydlu darparwyr eraill ar gyfer y cyfleuster.

Ar hyn o bryd, mae'r lleoliad yn cyflogi 20 aelod o staff, (gan gynnwys un swydd wag), sy’n cyfateb i 13.5 o gyflogeion amser llawn, yn ogystal â 14 o swyddogion achlysurol. Pe bai unrhyw gynnig yn cael ei gytuno ar ôl ystyried adborth yr ymgynghoriad cyhoeddus, byddai cydweithwyr sy'n gweithio yn y lleoliad yn cael cymorth trwy bolisïau AD presennol y Cyngor.

Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Mae'r cyngor yn cynnig tynnu ei gymhorthdal yn ôl, a allai weld y lleoliad yn cau ddiwedd mis Rhagfyr 2024. Byddai'r awdurdod wedyn yn archwilio opsiynau i redeg y cyfleuster mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn darparu cymhorthdal o £347,000 y flwyddyn i redeg Sefydliad y Glowyr Coed Duon.

Byddai'r cynnig hwn i dynnu'r cymhorthdal o Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar ddiwedd mis Rhagfyr 2024 yn caniatáu i'r cyngor wneud arbedion llawn yn ystod y flwyddyn 2025/26.

Ar hyn o bryd, mae'r lleoliad yn cyflogi 12 aelod o staff, (gan gynnwys 2 swydd wag), yn ogystal â 19 o swyddogion achlysurol. Pe bai unrhyw gynnig yn cael ei gytuno ar ôl ystyried adborth yr ymgynghoriad cyhoeddus, byddai cydweithwyr sy'n gweithio yn y lleoliad yn cael cymorth trwy bolisïau AD presennol y Cyngor.

Pryd bydd cyfle i fi ddweud fy nweud?

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Mawrth 30 Gorffennaf 2024 i 5pm ddydd Mawrth 10 Medi 2024.

Sut galla i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?

Mae amrywiaeth o ffyrdd i chi ddweud eich dweud.

  • Llenwi arolwg ar-lein neu mae copïau caled ar gael o'ch Llyfrgell agosaf.  
  • Galw heibio am sgwrs yn un o'r sesiynau galw heibio anffurfiol canlynol:

Lleoliad

Dyddiad

Amser

Llyfrgell Coed Duon

192 Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1AJ

Dydd Mawrth 13 Awst 2024

4–6pm

Llyfrgell Nelson

Commercial Street, Nelson, Treharris CF46 6NF

Dydd Mercher 21 Awst 2024

4–6pm

Llyfrgell Coed Duon

192 Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1AJ

Dydd Sadwrn 7 Medi 2024

11:30am–1:30pm

Canolfan Gymunedol Gelligaer

Aneurin Bevan Avenue, Gelligaer, Hengoed CF82 8ES

Dydd Iau 5 Medi 2024

5.30–7.30pm

Dyddiad

Amser

Dydd Iau 15 Awst 2024

4.30–6.30pm

Dydd Mawrth 20 Awst 2024

12.30–2.30pm

Mae gofyn i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r digwyddiadau, gysylltu â'r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio +441443 864380.

I gael cymorth o ran llenwi'r arolwg neu i ofyn am fformatau eraill, cysylltwch â'r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio +441443 864380.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i'r Cabinet am benderfyniad.

Diweddaru: 06 Sep 2024, 12:19 PM