Mae Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn darparu ystod o wasanaethau i gefnogi teuluoedd â phlant 0 - 25 oed, sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn sicrhau mai anghenion y teuluoedd sy’n dod gyntaf. Os oes angen help, cyngor neu arweiniad arnoch chi a'ch teulu, gall y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf helpu. Drwy wneud hyn, mae’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn gallu cynorthwyo teuluoedd cyn i’w hanghenion gyrraedd pwynt o argyfwng.
https://www.caerffili.gov.uk/services/children-and-families/how-to-get-help-and-support/familiesfirst?lang=cy-gb
Nod yr arolygon ar-lein hyn yw casglu adborth ar y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, gan ystyried anghenion teuluoedd Caerffili, edrych ar y cymorth rydym yn ei gynnig ar hyn o bryd a sut y gallai cymorth edrych yn y dyfodol.
Pam rydyn ni'n ymgynghori?
Rydym yn ymgynghori i sicrhau bod gennym Ddadansoddiad Anghenion gwybodus cyn ailgomisiynu Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Rydym am glywed adborth gan deuluoedd ac ymarferwyr yng Nghaerffili i helpu i lywio ein penderfyniadau.
Ffyrdd o fynegi eich barn
Mae'r arolwg teuluoedd wedi'i anelu at holl drigolion Caerffili, o unrhyw oedran, p'un a ydynt wedi cael mynediad at Teuluoedd yn Gyntaf o'r blaen ai peidio.
Cliciwch ar y ddolen isod i weld yr arolwg teuluoedd: https://forms.office.com/e/HbJ3F0AhWb
Mae copïau caled o’r arolwg ar gael ar gais drwy e-bostio teuluoeddyngyntaf@caerffili.gov.uk
Yn ystod yr arolwg, gofynnir i drigolion adael eu manylion cyswllt i gael eu hystyried ar gyfer cyfweliad ffôn pellach i archwilio eu profiadau gyda Theuluoedd yn Gyntaf yn fwy manwl.
Fel ymarferydd
Mae’r arolwg ymarferwyr wedi’i anelu at bob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd, rhieni a/neu blant o fewn bwrdeistref Caerffili, o fewn a thu allan i Deuluoedd yn Gyntaf.
Cliciwch ar y ddolen isod i weld yr arolwg ymarferwyr: https://forms.office.com/e/9wNhuQXhQi

Mae croeso i ymarferwyr Caerffili fynychu un o'n gweithdai ymgynghori ar 9 ac 11 Mehefin.
This survey is available in English. It is available in other languages and formats on request. Mae'r arolwg hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.
Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau
Bydd Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf newydd yn cael ei lansio ar 1 Ebrill 2026, wedi’i llywio gan ganfyddiadau’r arolwg.
Canlyniadau disgwyliedig
Gan ddefnyddio gwybodaeth o'r Dadansoddiad Anghenion, bydd Teuluoedd yn Gyntaf Caerffili yn ailgomisiynu gwasanaethau ar gyfer rhaglen newydd. Bydd y broses hon yn digwydd yn ystod 2025, yn dilyn rheoliadau Caffael.