Simnai Dirdro

Rhannu Simnai Dirdro ar Facebook Rhannu Simnai Dirdro Ar Twitter Rhannu Simnai Dirdro Ar LinkedIn E-bost Simnai Dirdro dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben

Y Simnai Dirdro (Twisted Chimney) yw gwaith celf safle-benodol gan yr Artist o Efrog Newydd, Brian Tolle, a gafodd ei ariannu gan gyllid Blaenau’r Cymoedd ac a gafodd ei ddadorchuddio yn 2011. Mae'r Simnai Dirdro yn 8 metr o uchder ac mae’r gwaith celf wedi'i leoli i'r gogledd yng Nghwm Rhymni gyda'r nod o greu gweledigaeth o'r dreftadaeth ôl-ddiwydiannol yn hytrach na bod yn ddarlun llythrennol o hanes yr ardal. Mae wedi'i leoli ger hen Waith Haearn yr Union ac mae'n sefyll ar dir a oedd unwaith yn rheilffordd. Cafodd ei greu gyda mewnbwn gan drigolion y Drenewydd.

Cafodd y cerflun ei ddifrodi yn 2023 oherwydd gwyntoedd cryfion yn yr ardal. I ddechrau, tynnodd y Cyngor y darnau a oedd yn rhydd ac, ers hynny, mae gweithwyr wedi tynnu rhai darnau pellach i atal unrhyw ddifrod pellach. Ar hyn o bryd, mae'r cerflun mewn cyflwr gwael ac yn cael ei fonitro am ragor o ddifrod. Bydd angen gwaith atgyweirio dros dro cyn gynted â phosibl i wneud y cerflun yn ddiogel, ond nid yw hwn yn ateb hirdymor.

Wrth symud ymlaen, mae dau opsiwn:

1. Ceisio cyllid i adnewyddu/atgyweirio'r strwythur i'w gyflwr blaenorol.

Os yw'r strwythur yn mynd i gael ei atgyweirio/adnewyddu, byddwn ni'n ceisio defnyddio cyllid allanol sy'n gallu cael ei ddefnyddio at y diben hwn yn unig. Y gost amcangyfrifedig fyddai tua £110,000 (yn seiliedig ar amcangyfrif cyfredol sydd wedi dod i law). Gwybodaeth ategol yma

2. Tynnu'r cerflun i lawr 

Bydd y cerflun hwn yn cael ei ddatgymalu ar gost o £10,500 (yn seiliedig ar amcangyfrif cyfredol sydd wedi dod i law).

Y gwahaniaeth rhwng y ddau opsiwn yw tua £99,500. Gwybodaeth ategol yma

Pam rydym yn ymgynghori?

Rydyn ni'n ceisio barn trigolion lleol a rhanddeiliaid yn ardal Rhymni (o'r Stryd Fawr i'r A465, gan gynnwys y Drenewydd a oedd yn rhan o'r gwaith gwreiddiol ar y cerflun) ar ddyfodol y cerflun Simnai Dirdro. Bydd hyn yn helpu llywio'r penderfyniad a ddylen ni geisio cyllid ychwanegol i adnewyddu'r cerflun ai peidio.

Ffyrdd o roi eich barn 

Bydd copïau papur o'r arolwg ac arolygon ar-lein ar gael.

Bydd copïau papur ar gael yn ein llyfrgell yn Rhymni.

This survey is available in English. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.

Sesiynau galw heibio

  • Canolfan Gymunedol Ael-y-bryn, Teras Aneurin, Rhymni, Tredegar NP22 5DR Dydd Mercher 14 Chwefror 11am–2pm
  • Llyfrgell Rhymni, Victoria Road, Rhymni NP22 5NU Dydd Mercher 21 Chwefror 10am–1pm

Dylai trigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, cyfleusterau cyfieithu neu sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau gysylltu â’r tîm drwy anfon e-bost at ProsiectauAdfywio@caerffili.gov.uk

Canlyniadau disgwyliedig

Mae'r ymatebion i'r arolwg wedi'u dadansoddi ac mae hyn yn mynd drwy'r broses benderfynu ar hyn o bryd. Mae trafodaethau'n parhau, bydd yr adroddiad a diweddariad pellach yn cael eu darparu maes o law.

Yn dibynnu ar ganlyniadau'r ymgysylltiad, bydd cyllid pellach yn cael ei geisio, naill ai i atgyweirio neu gael gwared ar y cerflun.