Beth yw sero net?

    Mae sero net yn derm byr ar gyfer allyriadau sero net. Er mwyn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, mae angen i allyriadau cynhesu'r atmosffer ostwng i ddim i bob pwrpas.

    Byddai hyn yn cael ei wneud drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i lefel mae modd eu cydbwyso drwy gael gwared ar nwyon cynhesu, fel carbon deuocsid. 

    Beth am roi stop ar yr holl allyriadau? Oherwydd does dim modd  lleihau rhai allyriadau, fel y rhai o dyfu bwyd, trwy newidiadau syml (er enghraifft i ynni adnewyddadwy). 

    A dyna lle mae “net” yn dod i mewn. Mae'n cyfeirio at gyfanswm terfynol yr allyriadau sy’n cael eu cynhyrchu ar ôl gwaredu gael ei ystyried, a ddylai fod yn sero.