Strategaeth Tai Lleol

Rhannu Strategaeth Tai Lleol ar Facebook Rhannu Strategaeth Tai Lleol Ar Twitter Rhannu Strategaeth Tai Lleol Ar LinkedIn E-bost Strategaeth Tai Lleol dolen

Mae'r Cyngor yn deall y bydd Llywodraeth Cymru, yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026, yn nodi amserlen ar gyfer datblygu a chyhoeddi Strategaeth Dai Genedlaethol newydd.

Bydd y Strategaeth Dai Genedlaethol newydd yn amlinellu gweledigaeth, blaenoriaethau a chamau gweithredu hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer diwallu anghenion tai ledled Cymru, gan sicrhau darparu cartrefi diogel, fforddiadwy ac addas.

Er mwyn sicrhau bod y Strategaeth Dai Leol nesaf sy'n cael ei llunio gan y Cyngor yn cyd-fynd â gweledigaeth a blaenoriaethau'r Strategaeth Dai Genedlaethol newydd, ac yn eu hadlewyrchu nhw'n llawn, mae cynnig ymestyn dyddiad gorffen y Strategaeth Dai Leol bresennol o fis Hydref 2026 i fis Hydref 2028. Cynigir na fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'r Strategaeth Dai Leol bresennol gan fod ei blaenoriaethau yn cyd-fynd yn agos â'r gwaith y mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau darparu cartrefi diogel, fforddiadwy ac addas ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi Strategaeth Dai Leol newydd ym mis Hydref 2028.

Yn ogystal, mae'r Cyngor yn cynnig cyhoeddi Cynllun Cyflawni wedi'i ddiweddaru i gynnwys y cyfnod estynedig. Bydd y Cynllun Cyflawni wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref 2026. Nid yw'r cynllun cyflawni yn cael ei ystyried fel rhan o'r ymarfer ymgysylltu hwn.

Mae'r Cyngor yn ceisio barn rhanddeiliaid ar y cynnig i ymestyn dyddiad gorffen y Strategaeth Dai Leol bresennol o fis Hydref 2026 i fis Hydref 2028. Mae'r ymgynghoriad yn dechrau ar 25 Chwefror 2026 ac yn dod i ben ar 18 Mawrth 2026.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os hoffech chi wneud sylwadau, e-bostiwch StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk(Dolen allanol) neu ffonio 01443 863121. Rhowch eich ymateb erbyn 18 Mawrth 2026.

Diweddaru: 26 Chwef 2026, 01:34 PM