Stryd Fawr Rhymni - Cynllun i Wella'r Amgylchedd

Rhannu Stryd Fawr Rhymni - Cynllun i Wella'r Amgylchedd ar Facebook Rhannu Stryd Fawr Rhymni - Cynllun i Wella'r Amgylchedd Ar Twitter Rhannu Stryd Fawr Rhymni - Cynllun i Wella'r Amgylchedd Ar LinkedIn E-bost Stryd Fawr Rhymni - Cynllun i Wella'r Amgylchedd dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.

Cafodd y Stryd Fawr ei hadnewyddu ychydig flynyddoedd yn ôl, gyda mannau i gerddwyr a mannau eistedd newydd wedi'u creu a choed stryd wedi'u sefydlu. Er bod y buddion sy'n cael eu darparu gan y cynllun yn parhau, mae rhannau ohonyn nhw wedi treulio, mae difrod i'r wyneb mewn mannau ac mae ardaloedd o bwdlo wedi datblygu, rhai ohonyn nhw ar raddfa fawr.

Bydd y cynllun arfaethedig yn cael gwared ar y pyllau, mynd i'r afael â'r ardaloedd anwastad o balmentydd, ac amddiffyn y coed drwy ddarparu amgylchedd tyfu gwell ar eu cyfer. 

Yn ogystal, mae mesurau'n cael eu cynnig a fydd yn rheoli'r gyfradd y mae'r dŵr yn rhedeg oddi ar y safle. Mae hyn yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol a bydd yn darparu'r buddion canlynol:

  • Lleihau llifogydd yn ystod cyfnodau o law eithafol
  • Glanhau'r dŵr cyn iddo adael y safle
  • Darparu ychydig o fudd bioamrywiaeth ac amwynderau (bydd cafnau blodau newydd yn cael eu gosod)

Bydd golwg y cynllun yn parhau i fod yn debyg iawn i'r sefyllfa bresennol er y bydd rhai newidiadau o ran lefel a rhai draeniau newydd yn cael eu gosod. Bydd nifer o gafnau blodau yn cael eu gosod ar y lefel 'stryd' isaf a bydd y rhain yn cynnal planhigion 'gwlyptir' brodorol a fydd yn blodeuo yn ystod yr haf.

Pwrpas yr Ymrwymiad

I rannu'r cynlluniau â'r cyhoedd ac i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun arfaethedig.

Ffyrdd o fynegi eich barn chi

Byrddau arddangos ar gael i’w gweld yn Llyfrgell Rhymni rhwng 1 a 31 Mai 2024.

Digwyddiadau Ymgysylltu yn Llyfrgell Rhymni ar;

Ddydd Mercher 8 Mai, 10am-12pm
Dydd Mercher 15 Mai 2024, 4pm-6pm

Rhannwch eich syniadau gan ddefnyddio'r bwrdd syniadau isod.

Canlyniadau disgwyliedig

Yn seiliedig ar eich adborth chi, byddwn ni'n bwrw ymlaen â’r cynllun i leihau’r perygl o lifogydd dŵr wyneb ar Stryd Fawr Rhymni. Mae Rhymni yn fwy agored i lifogydd dŵr wyneb na 95% o gymunedau yng Nghymru. Bwriad ein cynllun ni yw arafu llif y dŵr a gosod draeniau a fydd yn llai tebygol o gael eu rhwystro. Mae disgwyl i'r cynllun gael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Cododd llawer o drigolion bryderon ynghylch y coed ar hyd y Stryd Fawr. Dyma ragor o wybodaeth am y coed hynny a'u pwysigrwydd i'r Stryd Fawr. 

Mae Rhymni yn ardal gadwraeth sy'n golygu bod amddiffyniadau ychwanegol ar gyfer coed yn yr ardal. Mae'r coed ar hyd y Stryd Fawr yn cael eu harchwilio'n rheolaidd. Cawson nhw eu harolygu ym mis Awst 2024, mis Awst 2023, mis Mawrth 2021, mis Awst 2020 a mis Awst 2018.

Mae 16 o goed planwydd a 5 o goed leim ar Stryd Fawr Rhymni. Mae pob coeden yn ifanc ac mewn cyflwr da. Maen nhw'n ddwy rywogaeth addas iawn i'w tyfu ar strydoedd trefol. Maen nhw'n gallu gwrthsefyll clefydau yn gymharol dda, yn fedrus wrth ymdopi â llygredd aer, ac yn gadarn wrth wrthsefyll gwaith tocio cylchol rheolaidd. Maen nhw o werth amwynderol uchel, a bydd y gwerth hwnnw’n cynyddu’n sylweddol wrth i’r coed aeddfedu’n llwyr a darparu gorchudd canopi mwy (a'r cysgod cysylltiedig) mewn ardal o’r Fwrdeistref Sirol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o ran gorchudd canopi gwerthfawr, gan helpu lliniaru'r agweddau gwaethaf ar y newid parhaus yn yr hinsawdd. 

Mae cwynion nodweddiadol gan drigolion, megis canopïau isel, canghennau yn gorgyffwrdd, goleuadau stryd neu ddodrefn stryd wedi'u tywyllu, yn cael eu datrys wrth iddyn nhw godi. Mae'r coed wedi'u rheoli'n briodol oherwydd eu rhywogaeth, eu lleoliad a gyda'r amcan rheoli hirdymor o godi'r canopi i lefel uwch na lefel y bondo. Yn ogystal, mae rhywfaint o waith tocio gwreiddiau wedi'i wneud pan oedd angen atgyweirio palmentydd, ar y cyd â'r adran Briffyrdd. 

Mae'n cymryd amser i goed dyfu. Pan oedd y coed yn iau, roedd angen mwy o ymyriadau arnyn nhw i’w tocio’n ffurfiannol fel eu bod, pan fyddan nhw'n cyrraedd aeddfedrwydd, yn gwneud cyfraniad rhagorol i’r treflun yma, er budd y trigolion, perchnogion busnesau ac ymwelwyr, ac atgyfnerthu’r amgylchedd adeiledig o ansawdd uchel – fel sy'n cael ei gydnabod gan statws Ardal Gadwraeth y Stryd Fawr a gafodd ei roi o dan y ddeddfwriaeth Gynllunio.

Lle mae camerâu teledu cylch cyfyng ar adeiladau yn cael eu cuddio gan ganopïau coed, neu oleuadau stryd, neu unrhyw strwythur arall sy'n gorgyffwrdd yn ffisegol – megis arwyddion stryd neu ddysgl lloeren ar wal dalcen yr adeilad cyfagos – yna mae’r materion hynny, yn gwbl briodol, yn cyfiawnhau gwaith cynnal a chadw. Rydyn ni wedi bod yn ymgymryd â'r gwaith hwnnw a byddwn ni'n parhau i wneud hynny.

Nid yw materion tymhorol eraill – megis dail neu hadau'n cwympo ac ati – yn cyfiawnhau gwaith cynnal a chadw ychwanegol, gan nad yw’r rheini’n niwsans cyfreithiol y mae modd gweithredu arnyn nhw. Dylid mynd i'r afael â'r rhain drwy drefnu gwaith glanhau strydoedd angenrheidiol ar yr adeg berthnasol o'r flwyddyn. Mae gwefan y Cyngor yn ceisio esbonio hyn i drigolion ac Aelodau Etholedig yn yr adran cwestiynau cyffredin sy’n ymwneud â choed. Mae modd dod o hyd i'r adran honno yn: Caerffili - Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae cydweithwyr sy’n gyfrifol am goed yn ymwybodol o'r cynlluniau ar gyfer Stryd Fawr Rhymni, gan gynnwys y cynlluniau i lwybrau troed a chynlluniau Draenio Cynaliadwy o amgylch y coed yn y lleoliad hwn, ac maen nhw wedi cyfrannu arbenigedd proffesiynol at y cynlluniau hynny. O ran draenio cynaliadwy a rheoli llifogydd, mae coed yn gwneud cyfraniad sylweddol at liniaru fflachlifoedd – rheswm gwerthfawr arall dros gadw coed yma.

O ystyried polisïau’r Cyngor ar gyfer rheoli’r argyfwng hinsawdd, ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng natur ac ar gyfer diogelu’r amgylchedd i genedlaethau’r dyfodol, mae mwy o reswm dros gadw’r asedau hyn nag sydd i’w dileu nhw.