Rhannu Teithio Llesol Nelson ar FacebookRhannu Teithio Llesol Nelson Ar TwitterRhannu Teithio Llesol Nelson Ar LinkedInE-bost Teithio Llesol Nelson dolen
Mae angen eich gwybodaeth leol i wneud cerdded, beicio ac olwyno'n haws i bawb yn eich cymuned.
Fel rhan o gyflawni’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor, mae’r prosiect hwn yn edrych ar sut mae modd datblygu a darparu amrywiaeth o lwybrau teithio llesol yn Nelson ar gyfer cerddwyr a beicwyr, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru sy'n annog cerdded a beicio* fel dull teithio dewisol ar gyfer teithiau o fewn pellteroedd byr.
*Sylwch, pan fyddwn ni'n defnyddio’r term ‘cerddwr’ neu ‘gerdded’, rydyn ni'n cyfeirio nid yn unig at y rhai sy’n teithio ar droed, ond hefyd at ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chymhorthion symud eraill.
Mae'r prif lwybrau sydd wedi’u cynnig yn ymdrin yn bennaf â llwybrau INMC 181 a 15 o'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Y prif lwybrau yw:
Ar hyd Ffordd Trawsgae a'r Stryd Fawr, yn cysylltu o gylchfan Heol Mafon yr A472 i Bwl Road trwy Ysgol Llanfabon.
Ar hyd Shingrig Road a Llwyn-yr-Eos, yna trwy ystâd Maes Mabon, yn cysylltu o gyffordd Commercial Street/Y Stryd Fawr i Bwl Road.
Mae mân gysylltiadau ychwanegol wedi’u cynnig i hwyluso symud rhwng y ddau brif lwybr hyn. Mae'r rhain yn cynnwys:
Bwl Road o'r Stryd Fawr i'r mynediad i’r llwybr troed i ystâd Maes Mabon.
Ynys Las o'r Stryd Fawr i ystâd Maes Mabon.
Y Stryd Fawr a PrimroseClose o Bryncelyn i Llwyn-yr-Eos, gan fynd heibio i Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr.
Cyfeiriwch at Ffigur 1, isod, am eglurhad o'r llwybrau.
Nod yr ymgynghoriad hwn
Yn dilyn gwaith datblygu cychwynnol y cynigion, mae rhagor o waith mireinio'r cynllun ac ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi'i wneud. Mae'r cyfnod ymgysylltu Cam 1 hwn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd adolygu'r cynigion dylunio diweddaraf a chyflwyno awgrymiadau/newidiadau i'w hystyried.
Mae Ffigur 1 yn rhoi trosolwg symlach o gysylltiadau'r cynllun a'r enwau sydd wedi'u rhoi iddyn nhw.
Ffigur 1
Pam rydyn ni'n ymgynghori
Er mwyn cynnwys cymunedau lleol, rhanddeiliaid, defnyddwyr teithio llesol presennol a defnyddwyr teithio llesol posibl. Mae hyn yn sicrhau bod anghenion a gwybodaeth defnyddwyr lleol yn cael eu casglu wrth ddatblygu'r cynigion dylunio.
Ffyrdd o fynegi eich barn
I wneud sylwadau ar y cynigion, llenwch yr arolwgar-lein yma. Gallwch chi hefyd argraffu copi o'r arolwg i'w lenwi.
Mae copi o’r cynlluniau a’r arolwg ar gael yn Llyfrgell Nelson ac mae modd dychwelyd unrhyw arolygon papur sydd wedi’u llenwi i’ch llyfrgell neu yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Adran Isadeiledd (Gweinyddiaeth Peirianneg), Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG
Canlyniadau disgwyliedig
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad ar gael o fewn 3 wythnos i ddyddiad olaf yr ymgynghoriad. Bydd adborth yn cael ei ystyried wrth ddatblygu'r dyluniadau manwl ymhellach.
Beth yw teithio llesol?
Mae teithio llesol yn golygu cerdded, defnyddio cadair olwyn a beicio yn lle gyrru ar gyfer teithiau ymarferol, pob dydd, fel siopa, cymudo, a chael mynediad at wasanaethau fel iechyd ac addysg. Mae teithio llesol yn gallu helpu lleihau allyriadau carbon a llygredd aer drwy leihau’r defnydd o geir, ac mae hefyd yn gallu helpu’n ariannol drwy leihau’r ddibyniaeth ar geir ar gyfer teithiau byrrach.
Mae gan bob cyngor lleol yng Nghymru ddyletswydd i greu mapiau sy’n dangos eu llwybrau teithio llesol presennol a’u llwybrau arfaethedig. Mae llwybrau ond yn cyfrif fel llwybrau teithio llesol os ydyn nhw'n bodloni safonau gofynnol penodol o ran diogelwch, uniongyrchedd, a meini prawf eraill sy’n sicrhau bod ansawdd uchel yn cael ei ddyheu amdano a’i gynnal.