Teithio Llesol Parc Lansbury & Van Road, Caerffili - Cam 2
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben.
Mae angen eich gwybodaeth leol i wneud cerdded, beicio ac olwyno'n haws i bawb yn eich cymuned.
Fel rhan o gyflawni Map Rhwydwaith Teithio Llesol, wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor, mae’r prosiect hwn yn edrych ar sut mae modd datblygu a darparu amrywiaeth o lwybrau teithio llesol yn ardaloedd Parc Lansbury a Van Road, Caerffili, ar gyfer cerddwyr a beicwyr, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru sy'n annog cerdded a beicio* fel dull teithio dewisol ar gyfer teithiau o fewn pellteroedd byr.
Sylwch, pan fyddwn ni'n defnyddio’r term ‘cerddwr’ neu ‘gerdded’, rydyn ni'n cyfeirio nid yn unig at y rhai sy’n teithio ar droed, ond hefyd at ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chymhorthion symud eraill.
Y llwybrau fel sydd wedi'u nodi ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol yw:
- INMC 72a – Llwybr sy'n dechrau yng Nghyfnewidfa Trafnidiaeth Caerffili. Wrth deithio i'r dwyrain, mae'n mynd trwy'r safle Parcio a Theithio. Mae'n troi i'r gogledd tuag at gylchfan Van Road. O'r gylchfan, mae'r llwybr yn parhau ar hyd Lansbury Park Distributor Road. Mae'n dod i ben wrth y gyffordd â Pen-y-Cae, lle mae'n cwrdd â Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
- INMC 72b – Llwybr sy'n arwain i'r gorllewin o Lansbury Park Distributor Road. Mae'r llwybr yn dod i ben wrth y llwybr presennol i archfarchnad Morrisons.
- INMC 370 – Llwybr sy'n dechrau ar y gyffordd rhwng Southern Street a Teras Trem y Gogledd. Mae'r llwybr yn mynd i'r dwyrain ar hyd Southern Street a Van Road, gan ddod i ben ym maes parcio Van Road Trails.
- INMC 371 a 376 – Gwella cerdded o fewn Parc Lansbury.
Bydd y Cyngor yn cyflwyno’r cynllun mewn dau gam:
- Mae Cam 1 yn cynnwys llwybr INMC 370 a rhan o lwybr INMC 72a ger cylchfan Van Road. Bydd gwaith adeiladu yn dechrau ddiwedd haf/hydref 2024.
- Mae Cam 2 yn cynnwys gweddill llwybr INMC 72a, Llwybr INMC 72b, 371, a 376. Mae cyflwyno Cam 2 yn amodol ar gyllid.
Ymgysylltu â'r cyhoedd blaenorol
Roedd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 11 Rhagfyr 2023 a 4 Ionawr 2024. Mae crynodeb o'r adborth ar gael ar-lein yn Llwybr Teithio Llesol – Parc Lansbury a Heol y Fan, Caerffili | Trafodaeth Caerffili.
Nod yr ymgynghoriad hwn
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, mae rhagor o waith mireinio'r cynllun ac ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi'i wneud. Mae'r ail gyfnod ymgysylltu hwn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd adolygu'r dyluniadau terfynol a chyflwyno mân awgrymiadau/newidiadau i'w hystyried.
Mae amlinelliad o'r prif newidiadau dylunio ers yr ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol wedi'i gynnwys yn yr wybodaeth ategol.
Mae Ffigur 1 yn rhoi trosolwg symlach o gysylltiadau'r cynllun a'r enwau wedi'u rhoi iddyn nhw.
Ffigur 1
Pam rydyn ni'n ymgynghori
Er mwyn cynnwys cymunedau lleol, rhanddeiliaid, defnyddwyr teithio llesol presennol a defnyddwyr teithio llesol posibl. Mae hyn yn sicrhau bod anghenion a gwybodaeth defnyddwyr lleol yn cael eu casglu wrth ddatblygu'r cynigion dylunio.
Ffyrdd o fynegi eich barn
I wneud sylwadau ar y cynigion, llenwch yr arolwg ar-lein yma (Dolen allanol). Gallwch chi hefyd argraffu copi o'r arolwg i'w lenwi.
Mae copi o’r cynlluniau a’r arolwg ar gael yn Llyfrgell Caerffili ac mae modd dychwelyd unrhyw arolygon papur wedi’u llenwi i’ch llyfrgell chi neu yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Is-adran Isadeiledd (Gweinyddiaeth Peirianneg), Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG
Canlyniadau disgwyliedig
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad ar gael o fewn pythefnos i ddyddiad olaf yr ymgynghoriad. Bydd adborth yn cael ei ystyried wrth ddatblygu'r dyluniadau manwl ymhellach.
Beth yw teithio llesol?
Mae teithio llesol yn golygu cerdded, defnyddio cadair olwyn a beicio yn lle gyrru ar gyfer teithiau ymarferol, pob dydd fel siopa, cymudo, a chael mynediad at wasanaethau fel iechyd ac addysg. Mae teithio llesol yn gallu helpu lleihau allyriadau carbon a llygredd aer drwy leihau’r defnydd o geir, ac mae hefyd yn gallu helpu’n ariannol drwy leihau’r ddibyniaeth ar geir ar gyfer teithiau byrrach.
Mae gan bob cyngor lleol yng Nghymru ddyletswydd i greu mapiau sy’n dangos eu llwybrau teithio llesol presennol a’u llwybrau arfaethedig. Mae llwybrau ond yn cyfrif fel llwybrau teithio llesol os ydyn nhw'n bodloni safonau gofynnol penodol o ran diogelwch, uniongyrchedd, a meini prawf eraill sy’n sicrhau bod ansawdd uchel yn cael ei ddyheu amdano a’i gynnal.
Preifatrwydd
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i lywio'r broses datblygu llwybrau. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a’ch data personol.