Trafodaeth Caerffili | Pennu cyllideb y Cyngor 2023-2024
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu ei gynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24, ynghyd â manylion y cynlluniau i gau bwlch rhagamcanol o £48 miliwn mewn cyllid dros y ddwy flynedd nesaf.
Pam rydym yn ymgynghori?
Mae Caerffili, fel pob awdurdod lleol ledled Cymru, yn wynebu heriau ariannol sylweddol ar hyn o bryd oherwydd pwysau parhaus ar y gyllideb wedi'u hachosi gan nifer o ffactorau digynsail.
Rydyn ni wedi dioddef dros ddeng mlynedd o galedi wedi'i orfodi gan lywodraeth y DU gyda thoriadau i gyllidebau, rhewi cyflogau a symud yn y baich i'r rhai sy’n gallu ei fforddio leiaf. Rydyn ni hefyd yn teimlo effaith Brexit, pandemig byd-eang, prisiau ynni cynyddol ac argyfwng costau byw.
Er bod y pwysau hyn yn sylweddol, rydyn ni mewn sefyllfa gref i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau yn sgil ein rheolaeth ariannol gadarn dros y blynyddoedd diwethaf
Un o'r cynigion allweddol yn yr adroddiad yw defnydd untro o gronfeydd wrth gefn y Cyngor yn 2023/24, sef cyfanswm o £15.046 miliwn. Mae gan Gaerffili gronfeydd wrth gefn iach ar hyn o bryd, gyda mwyafrif yr arian wedi'i neilltuo a'i glustnodi ar gyfer cynlluniau penodol. Fodd bynnag, mae cyfran o’r arian yn gallu cael ei ddefnyddio os bydd ei angen yn y dyfodol.
Mae arbedion parhaol ac arbedion dros dro eraill o £12.421m wedi cael eu nodi hefyd er mwyn helpu i fantoli'r gyllideb ar gyfer 2023/24. “Mae’r defnydd untro o gronfeydd wrth gefn ac arbedion dros dro yn 2023/24 yn ddatrysiad tymor byr a bydd e'n rhoi amser i ni ail-lunio ein gwasanaethau i fynd i’r afael â’r heriau ariannol sylweddol sydd o’n blaenau.
Argymhelliad allweddol arall yn yr adroddiad drafft yw cynyddu Treth y Cyngor gan 7.9% ar gyfer 2023/24. Byddai hyn yn cynyddu praesept Band D o £1,253.95 i £1,353.01 (cynnydd blynyddol o £99.06 neu £1.91 yr wythnos)
Mae’n bwysig cofio, hyd yn oed pe bai cynnydd o 7.9%, bydd trigolion Caerffili yn dal i dalu llawer llai o ran Treth y Cyngor na llawer o ardaloedd cynghorau eraill ledled Cymru.
Canlyniadau disgwyliedig
Adroddiad Cryno Ymgysylltu Beth sy'n Bwysig
- Atodiad 1 beth sy'n bwysig 2022 wyneb yn wyneb
- Atodiad 2 canllaw beth sy'n bwysig
- Atodiad 3 arolwg beth sy'n bwysig
- Atodiad 4 beth sy'n bwysig 2022 rhanddeiliaid
- Atodiad 5 beth sy'n bwysig 2022 ymatebion agored (wedi'u golygu)
Adroddiad Cryno ar yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb
- Atodiad 1 ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 arolwg
- Atodiad 2 ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 ymgysylltu wyneb yn wyneb
- Atodiad 3 Ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 ymgysylltu wedi'i dargedu
- Atodiad 4a ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 nodiadau o’r sgyrsiau wyneb yn wyneb
- Atodiad 4b ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 adborth y panel safbwynt
- Atodiad 4c ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 sylwadau drafft y Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol
- Atodiad 4d ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 ymatebion cyfryngau cymdeithasol
- Atodiad 4e ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 ymateb cyngor cymuned Gelligaer
- Atodiad 4f ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 ymateb o ganolfan gymunedol llanbradach
- Atodiad 4g ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 ymateb ysgrifenedig gan drigolyn
- Atodiad 4g ymgynghoriad ar y gyllideb 23-24 ymatebion ysgrifenedig ac e-bost ychwanegol